Neil Taylor
Mae amddiffynnwr Cymru, Neil Taylor wedi’i wahardd am ddwy gêm ryngwladol ar ôl cael ei anfon o’r cae yn y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon fis diwethaf.

Torrodd capten y Gwyddelod, Seamus Coleman ei goes yn y dacl, ac fe gafodd y Cymro ei feirniadu am y digwyddiad.

Yn dilyn cyfarfod o bwyllgor disgyblu FIFA, daeth cadarnhad o’r gosb gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae’r gwaharddiad yn golygu na fydd e ar gael ar gyfer y gêm yn Serbia ar Fehefin 11 na chwaith y gêm yng Nghaerdydd yn erbyn Awstria ar Fedi 2.