David Moyes (Llun: Jason Gulledge CCA2.0)
Mae rheolwr tîm pêl-droed Sunderland, David Moyes wedi cael ei gosbi gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr ar ôl bygwth “rhoi slap” i ohebydd y BBC.
Roedd e’n anfodlon gyda chyfres o gwestiynau gan Vicki Sparks yn dilyn cyfweliad ar ôl y gêm ddi-sgôr yn erbyn Burnley ar Fawrth 18.
Roedd hi wedi awgrymu ei fod e dan bwysau oherwydd bod cadeirydd y clwb yn yr eisteddle yn ystod y gêm.
Wnaeth e ddim ateb y cwestiwn yn ystod y cyfweliad, ac fe wnaeth sylwadau ychwanegol ar ôl rhoi terfyn ar y cyfweliad.
Cafodd ei sylwadau eu recordio ar ffôn.
Dywedodd wrthi: “Roedd pethau’n mynd braidd yn ddrwg tua’r diwedd, felly bydd yn ofalus. Mae’n bosib gei di slap er bo ti’n ddynes. Bydd yn ofalus y tro nesa’ ddoi di mewn.”
Er nad oedd hi wedi cwyno, cafodd cwyn ei gwneud gan ei chydweithwyr.
Mewn datganiad, dywedodd y Gymdeithas Bêl-droed fod y sylwadau’n “amhriodol a/neu yn fygythiol a/neu wedi dwyn anfri ar y gêm”.
Mae gan David Moyes tan Fai 3 i ymateb i’r cyhuddiad.