Mae prif ras seiclo gwledydd Prydain yn gorffen yng Nghymru am y tro cynta’ eleni.
Mae disgwyl i Gaerdydd fod yn llawn bwrlwm ddydd Sul, Medi 10, wrth i’r ras ‘OVO Energy Tour of Britain’ ddod i ben ar ôl 180 cilomedr, o Gaerwrangon i brifddinas Cymru.
Bydd y brif ddinas yn croesawu’r beicwyr ar ôl pasio drwy Sir Fynwy a Chasnewydd cyn gorffen ar Rhodfa Brenin Edward VII, ochr yn ochr i Neuadd Ddinesig Caerdydd lle lansiad y daith dydd Mawrth 25.04.
“Rwyf yn falch bod y Tour of Britain 2017 yn gorffen yng Nghaerdydd,” meddai Ken Skates, Gweinidog Economaidd, Llywodraeth Cymru. “Mae’n gyfle ardderchog i ddangos tirlun unigryw a phrydferth Cymru i’r byd.
“Mae’r ras wedi bod yng Nghymru yn flynyddol ers 2010 yn cynnwys y cymal agoriadol ar Ynys Môn yn 2015.”
Y daith
Bydd manylion cymal Caerdydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr haf.
Cymal 1, Medi 3 – Caeredin i Kelso
Cymal 2, Medi 4 – Kielder Water & Forest Park i Blyth
Cymal 3, Medi 5 – Normanby Hall Country Park i Scunthorpe
Cymal 4, Medi 6 – Mansfield i Newark-on-Trent
Cymal 5, Medi 7 – The Tendring – cymal rasio unigol yn erbyn y cloc
Cymal 6, Medi 8 – Newmarket i Aldeburgh
Cymal 7, Medi 9 – Hemel Hempstead i Cheltenham
Cymal 8, Medi 10 – Caerwrangon i Gaerdydd