Mae pencampwyr presennol Ewrop, Real Madrid, yn wynebu Atletico Madrid yn rownd gynderfynol Cynghrair y Pencampwyr.

Fe drechodd tîm Gareth Bale eu cymdogion yn y ffeinal y llynedd, ac fe fydd angen buddugoliaeth arall dros ddau gymal os yw’r Cymro am gael chwarae yn y rownd derfynol yng Nghaerdydd ar Fehefin 3.

Yn y semi arall mae Monaco o Ffrainc yn wynebu Juventus o’r Eidal.

Mae Real Madrid yn gobeithio ennill prif gystadleuaeth clybiau Ewrop am y 12fed tro, a Gareth Bale yn anelu at ennill Cynghrair y Pencampwyr am y trydydd tro.

Man U yn herio Sbaenwyr

Yng Nghynghrair Europa mae Man U yn wynebu Celta Vigo ac Ajax yn erbyn Lyon.