Stephen Williams
Ac yntau wedi rhedeg naw marathon hyd yma, mae  Stephen Williams yn rhedeg ei ail Farathon Llundain ddydd Sul – ac mae’r hunllef o’r un gyntaf yn 2004 yn dal ar ei feddwl.

Paratoi ydi’r gyfrinach pan yn cystadlu mewn unrhyw ddigwyddiad, meddai, ond mae Stephen Williams yn cofio iddo gymryd ei farathon gyntaf yn rhy ysgafn – a gorfod talu’r pris am hynny.

Fe darodd y wal yn Llundain y tro cynta’ ar ôl 16 milltir, a does ganddo ddim cof o’r deng milltir olaf.

“Mi wnes i ddysgu gwers galed y diwrnod yna,” meddai wrth golwg360 ar drothwy ras eleni. “Mi wnes i baratoi’n iawn am un Efrog Newydd yn 2009 a Berlin yn 2010. Dw i wedi cyflawni naw marathon ers hynny, yn cynnwys Efrog Newydd, Berlin, Llundain a Marathon Eryri yn 2014 a 2015.

“Y llynedd, mi wnes i gystadlu yn y Yorkshire 3 Peaks Challenge, 24 milltir caled iawn, mewn amser o bump awr a chwe munud, a’r Scott Snowdonia  Trail mewn 5:11, a marathon Glencoe sydd, yn ôl rhai, y farathon anodda’ yn yr Alban.”

Rheswm tros redeg

Mae gan Stephen Williams ddau reswm tros redeg Marathon Llundain 2017 – i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer “elusen ffantastig”, ac  i drio gwella amser 2004 o bedair awr a 16 munud. Ei darged eleni ydi ei gwneud hi i’r llinell derfyn mewn llai na thair awr a hanner.

“Mi fydd yn arwydd da  o lle ydw i o ran ffitrwydd, oherwydd dw i am gymryd rhan mewn ultra marathon sy’n cael ei threfnu o gwmpas ardal Pen Llŷn ddiwedd Gorffennaf – 75 milltir i gyd, her a hanner!” meddai.

“Mae rhywun wastad yn meddwl am yr her nesaf, a dw wedi meddwl yn galed am hon, bydd rhaid dysgu’r corff i fihafio mewn modd gwahanol o ran ymarfer a bwyta.

“Dw i wedi rhedeg bron i 500 o filltiroedd y mis yma – er fy mod wedi cael rhyw gyfnodau o salwch – felly yn amlwg bydd rhaid codi fy ngêm am her Pen Llŷn.

“Mae mynd i mewn i Farathon Llundain yn dipyn o her erbyn hyn,” meddai Stephen Williams wedyn. “Mae ceisio cael lle drwy’r ballot yn lwc pur, felly es i drwy elusen, ond oedd rhaid profi i’r elusen fy mod i o ddifri’.”

Y ras

* Mae Marathon Llundain yn cael ei threfnu bob blwyddyn ers 1981;

* Roedd 20,000 o bobol wedi gwneud cais i’w rhedeg eleni. Yn 1982 mi ymgeisiodd 90,000 gyda 18,059 yn dechrau;

* Mae’r ras wedi tyfu yn eu maint gyda 39,140 yn gorffen yn 2016.

* Ers ei sefydlu 36 o flynyddoedd yn ol, mae mwy na miliwn o bobol wedi cwblhau’r cwrs.