Fernando Llorente
Doedd ymosodwr Abertawe, Fernando Llorente ddim yn ffit i wynebu Watford ddydd Sadwrn diwethaf, yn ôl y prif hyfforddwr Paul Clement.

Daeth y cyfaddefiad yn ystod ei gynhadledd wythnosol i’r wasg yn Fairwood brynhawn ddoe wrth iddo baratoi ei dîm ar gyfer gêm fawr yn erbyn Stoke yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Mae’r gêm yn hollbwysig ar ôl i’r Elyrch golli bum gwaith yn eu chwe gêm diwethaf, sy’n eu gadael nhw ddau bwynt islaw’r safleoedd diogel.

Beirniadaeth

Cafodd y Sbaenwr ei feirniadu’n hallt gan sylwebwyr Match of the Day ar ôl i’r Elyrch golli o 1-0 yn Watford, sy’n eu gadael yn y tri safle isaf yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

Yn ôl ystadegau’r rhaglen deledu, doedd Fernando Llorente ddim wedi rhedeg am y bêl unwaith drwy gydol y gêm.

Ond yn ôl Paul Clement, nid rhedwr mo’i brif ymosodwr ond yn hytrach, chwaraewr sy’n disgwyl i’r bêl lanio wrth ei draed er mwyn iddo saethu.

“Nid dyna’r math o chwaraewr yw e,” meddai. “Pe bawn i am gael chwaraewr sy’n gwibio, yn rhedeg drwy’r amser, nid Fernando fyddai hwnnw.”

Ffitrwydd

Eglurodd Paul Clement nad oedd e’n ymwybodol cyn y gêm nad oedd y Sbaenwr yn gwbl holliach yn dilyn sawl anaf i’w goes yn ddiweddar.

“Ar ôl siarad â fe ar ôl y gêm – ac mae’n rhy hwyr ar ôl y gêm – doedd e ddim yn teimlo ar ei orau ac mae hynny’n amlwg wedi cael effaith ar y ffordd wnaeth e chwarae.

“Ond mae’n anodd edrych ar ystadegau corfforol ar eu pen eu hunain. Ar y mwyaf, mae Fernando wedi rhedeg 65 metr [mewn un gêm] ers i fi fod yma.

“Mae angen iddo fe fod yn y lle iawn ar yr adeg iawn, mae angen gwasanaeth arno fe, mae angen iddo fe ein helpu ni i gydlynu’r chwarae fel y gallwn ni adeiladu, ac mae e’n benderfynol o wneud hynny.”

Agwedd negyddol?

Wfftiodd Paul Clement awgrym y sylwebydd Frank Lampard fod gan Fernando Llorente agwedd negyddol yn ystod gemau.

“Mae pobol yn dangos emosiwn mewn gwahanol ffyrdd. Does dim ffordd o wybod beth sy’n digwydd y tu fewn i fi wrth ymyl y cae, sut dw i’n teimlo. Mae hynny’n wir am unrhyw un o fy chwaraewyr i.”