Neil Taylor (Llun: Nick Potts/PA)
Mae amddiffynnwr canol Gweriniaeth Iwerddon, John O’Shea yn dweud ei fod e’n “ddiolchgar” na chafodd ei anafu yn dilyn tacl flêr arno gan Gareth Bale mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd ddi-sgôr yn Stadiwm Aviva nos Wener.

Torrodd Seamus Coleman ei goes yn dilyn tacl flêr gan Neil Taylor, a gafodd ei anfon o’r cae.

Daeth y dacl honno ar gapten Iwerddon eiliadau’n unig ar ôl y dacl gan Gareth Bale.

Mae Seamus Coleman wedi cael llawdriniaeth ar ei goes ar ôl iddo ei thorri mewn dau le.

Cafodd Gareth Bale gerdyn melyn am ei dacl yntau.

Dywedodd John O’Shea: “Diolch byth ’mod i’n cerdded i ffwrdd, a dydy hynny ddim yn broblem.

“Dw i wedi cael digon o bwythau yno. Ro’n i’n lwcus o ystyried yr hyn ddigwyddodd i Seamus. Ar noson arall, gallai au gerdyn coch fod wedi cael eu dangos.”

Amddiffyn y Cymry

Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi amddiffyn Neil Taylor a Gareth Bale.

Ac mae hynny i’w ddisgwyl, yn ôl John O’Shea.

“Ry’ch chi’n disgwyl hynny, ond yn amlwg o fewn rheswm.

“Pan ydych chi’n chwarae yn erbyn Lloegr, yr Alban neu Gymru, mae’r gemau’n mynd i fod felly. Maen nhw’n gemau ry’ch chi am chwarae ynddyn nhw.

“Fel rheolwr y gwrthwynebwyr, ry’ch chi’n mynd i amddiffyn eich chwaraewyr eich hun.”

Ond dywedodd fod tacl hwyr yn “fater arall”.