Treviso 13–5 Gweilch

Profodd y Gweilch golled annisgwyl wrth iddynt deithio i’r Stadio Monigo i herio Treviso yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn.

Cafwyd perfformiad hynod ddi fflach gan y Cymry wrth iddynt golli yn erbyn y tîm sy’n ail o waelod y tabl.

Deunaw munud a oedd ar y cloc pan agorodd Alberto Sgarbi’r sgorio gyda chais i’r tîm cartref, y canolwr yn troelli allan o dacl i groesi yng nghysgod y pyst yn dilyn gwaith da gan ei flaenwyr.

Ychwanegodd Tito Tebaldi’r trosiad ac roedd yr Eidalwyr yn llwyr haeddu eu mantais.

Bu rhaid aros tan symudiad olaf yr hanner am ymateb y Gweilch wrth i Keelan Giles groesi yn dilyn bylchiad gwreiddiol Sam Davies.

Gwnaeth Davies yn dda i greu’r cais ond methodd ei drosi felly roedd Treviso ddau bwynt ar y blaen wrth droi.

Treviso a gafodd y gorau o’r ail hanner hefyd a rhoddodd dwy gic gosb, un gan Tebaldi ac un gan Ian McKinley, yr Eidalwyr ddwy sgôr i ffwrdd o’r Gweilch.

Dim hyd yn oed pwynt bonws i’r Cymry felly wrth iddynt lithro i’r trydydd safle yn nhabl y Pro12.

.

Treviso

Cais: Alberto Sgarbi 18’

Trosiad: Tito Tebaldi 19’

Ciciau Cosb: Tito Tebaldi 57’, Ian McKinley 73’

.

Gweilch

Cais: Keelan Giles 40’