Mae rheolwr tîm pêl-droed Blackpool, Gary Bowyer wedi galw am ymchwiliad i ymddygiad cefnogwyr Casnewydd yn ystod y gêm yn Rodney Parade brynhawn ddoe.

Mae e’n honni iddo gael ei daro gan wrthrychau, gan gynnwys losin a photeli, wrth iddo ddathlu gôl hwyr yn ystod y gêm.

Sgoriodd Blackpool yn ystod munud ola’r gêm i sicrhau buddugoliaeth o 3-1 wrth i Gasnewydd geisio unioni’r sgôr.

Dywedodd Gary Bowyer wrth y wasg yn Blackpool fod y digwyddiad yn “rhywbeth na ddylid ei weld yn unman, heb sôn am gae pêl-droed”.

Mae e hefyd wedi beirniadu diffyg ymateb stiwardiaid Casnewydd i’r digwyddiad, ond mae’r cyfan wedi’i gofnodi yn adroddiad y dyfarnwr a fydd yn cael ei gyflwyno i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr.