Mansfield 2–1 Casnewydd   
                                                          

Collodd deg dyn Casnewydd wrth iddynt deithio i Field Mill i herio Mansfield yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Ryan Bird fantais gynnar i’r Alltudion cyn i Krystian Pearce unioni pethau cyn yr egwyl. Aeth Casnewydd i lawr i ddeg dyn yn yr ail hanner cyn i Shaquile Coulthirst gipio’r tri phwynt i’r tîm cartref gyda chic o’r smotyn.

Pum munud yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Ryan Bird yr ymwelwyr ar y blaen ond roedd Mansfield yn gyfartal o fewn deuddeg munud diolch i gôl Krystian Pearce o groesiad Joel Byrom.

Felly yr arhosodd pethau tan hanner amser ond newidiodd pethau wedi i Jaanai Gordon dderbyn dau gerdyn melyn mewn dau funud hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Daeth y gôl fuddugol i’r tîm cartref yn fuan wedi hynny wrth i Coulthirst sgorio o’r smotyn yn dilyn llawio Craig Reid yn y cwrt cosbi.

Mae’r canlyniad yn gadael Casnewydd ar waelod yr Ail Adran, chwe phwynt i ffwrdd o ddiogelwch yr ail safle ar hugain gyda thair gêm ar ddeg yn weddill.

.

Mansfield

Tîm: Kean (Shearer 40’), Collins, Bennett, Pearce, Benning, McGuire (MacDonald 73’), Hamilton, Byrom, Whiteman, Coulthirst, Hoban (Arquin 88’)

Goliau: Pearce 17’, Coulthirst [c.o.s.] 75’

Cardiau Melyn: Pearce 66’, Arquin 90+2’

.

Casnewydd

Tîm: Day, O’Brien, Jones, Demetriou, Butler, Samuel, Reid (Jackson 85’), Flynn (Bignot 27’ (Sheehan 80’)), Rose, Bird, Gordon

Gôl: Bird 5’

Cardiau Melyn: Rose 9’, Gordon 65’, 67’

Cerdyn Coch: Gordon 67’

.

Torf: 3,824