Jay Owen (llun: Tommie Collins)
Mae Sgorio wedi dewis Prestatyn  – Cei Connah fel eu gêm fyw heddiw yn wyth olaf Cwpan Cymru. Fe fu Tommie Collins yn siarad gydag un o’r chwaraewyr…

 Tybed a fydd sioc ym Mhrestatyn gyda’r tîm o Gynghrair Huws Gray yn herio tîm Andy Morrison o Lannau Dyfrdwy?

Yn nhîm Cei Connah mae Jay Owen, 26, o Gaernarfon.  Ymunodd Jay â Chei ym mis Mai 2016 a chyn hynny chwaraeodd 70 o weithiau i Airbus.

Dechreuodd ei yrfa gyda Chaer lle cafodd saith ymddangosiad yng nghynghrair Lloegr a chynrychioli Cymru o dan 17. Symudodd wedyn i Barrow yn y gyngres lle cafodd 95 ymddangosiad a chael cap o dan 23 i  dîm rhan amser Cymru.

Ei gêm gyntaf i Cei oedd eu gêm gyntaf nhw yn Ewrop yn erbyn Stabaek o Norwy ym Mehefin 2016.

Gobeithion mawr

Roedd gobeithion mawr i dîm Andy Morrison ddechrau’r  tymor, ar ôl arwyddo Mike Pearson, Ian Kearney, Matty Williams a Michael Wilde. Ond mae wedi bod yn dymor rhwystredig  ar y cae iddyn nhw.

“Mae’r Seintiau wedi bod yn wych, ond bechod bod ni wedi cael anafiadau i chwaraewyr allweddol dechrau’r tymor,” meddai Jay Owen.  “Oherwydd hyn, dw i wedi chwarae mewn amryw o safleoedd yn yr amddiffyn: dw i’n chwaraewr amryddawn rwan, ac yn yr hir dymor, mi allai hyn fy helpu.

“Mae gêm dydd Sadwrn yn anferth, dw i’n nabod llawer o’u chwaraewyr nhw, mae Andy Morrison fel arfer wedi bod yn eu gwylio nhw, ac maen nhw wedi bod yn wych y tymor yma. Maen nhw wedi bod efo’i gilydd rŵan ers disgyn i’r Cymru Alliance.”

Sut aeth y Cofi i chwarae i Gaer?

“Mi ofynnon nhw i mi fynd yno ar dreial, ac mi wnes i greu argraff, felly mi gynigion nhw gytundeb i fi,” meddai Jay Owen. “Ond, oherwydd y problemau ariannol yno, mi aeth yr hwch drwy’r siop. Roedd angen gwerthu chwaraewyr a gefais gynnig i fynd i Barrow – clwb da.

“Oeddan nhw’n edrych ar ein holau ni’n dda, ac mi oeddan nhw eisio aros yn y Gynghrair. Mi ges i dri thymor llawn yno, ond disgyn o’r Gynghrair wnaethon nhw,  wedyn oeddan nhw angen mynd yn rhan amser… mi ges i gynnig i ymuno ag Airbus, ac mi oedd hi’n bryd dod yn ôl  i Gymru.

“Yn fanno, mi ges i anafiadau ac mi o’n i’n cael trafferth efo fy ffitrwydd, ac roedd is-reolwr Airbus, Andy Morrison, wedi ymuno â Chei Connah fel rheolwr. Roedd rhaid i fi brofi fy ffitrwydd, ond mi ges i gytundeb gan Cei, a hyd yn hyn, dw i wedi chwarae bron bob gêm tymor yma.”

Y rheolwr sy’n gweiddi!

Mae llawer yn gweld rheolwr Cei Connah, Andy Morrison, fel y bos sy’n bloeddio ar ei chwaraewyr o ymyl y cae… ond mae hynny wedi bod yn help mawr i Jay Owen, meddai.

“Mae Andy Morrison yn gymeriad mor angerddol, ond yn ŵr bonheddig hefyd, mae o’n edrych ar ôl pawb yn y clwb a thrin pawb yr un peth. Mae’r drws wastad ar agor ganddo fo.”

Mae Jay Owen wedi cynrychioli Cymru a chwarae yn Ewrop, ond fe fyddai ennill Cwpan Cymru yn cyflawni uchelgais. Mae’r Cofi hefyd wastad yn cadw llygad ar ganlyniadau Caernarfon, ac mae’n mynd draw i’r Oval i’w gwylio pan fydd gartre’.

Felly, y canlyniad gorau i Jay Owen y penwythnos hwn, fyddai gweld Cei Connah a Chaernarfon yn mynd drwodd i rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru.

Prestatyn

Mae Prestatyn wedi cael tymor ardderchog, heb golli gêm yn y gynghrair ac wedi cael dwy gêm gyfartal. Mae’n bosib y gwnawn nhw sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru yr wythnos nesa’.

Bydd Noah Edwards yn serennu tros Brestatyn ac yn yn wynebu ei frawd, Kai, a arwyddodd i Wrecsam ddechrau’r flwyddyn. Mae carfan lawn gan Neil Gibson i ddewis ohoni, heb ddim anafiadau.