Paul Clement yn ei gyfnod gyda Chelsea (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)
Mae prif hyfforddwr Paul Clement wedi cyfaddef nad oedd e erioed wedi meddwl y byddai’n cael y cyfle i fod yn brif hyfforddwr yn yr Uwch Gynghrair.

Gyda chlwb Chelsea y dechreuodd ei yrfa fel hyfforddwr yn 1995, a hynny pan oedd e’n dal i fod yn athro ysgol uwchradd yn ne Llundain, ac yn rhannu ei amser rhwng yr ystafell ddosbarth a’r cae ymarfer ym mharc Battersea, lle’r oedd timau ieuenctid Chelsea yn ymarfer ar y pryd.

“Roedd hi’n wahanol iawn yn 1995-96 gan nad oedd gan y clwb yr arian sydd ganddyn nhw nawr. Roedden ni’n llogi hen gae Astroturf. Wrth i ni ymarfer, byddai’r chwaraewyr hoci’n cynhesu ac yn newid drws nesa’. Roedd y cae fel concrid.”

Er ei fod e’n cyrraedd y cae ymarfer ac yn pwmpio aer i mewn i’r peli yng nghefn ei gar, roedd ei gyfnod gyda’r timau ieuenctid yn gyfle i Paul Clement arsylwi rhai o reolwyr Chelsea ar eu gorau – Glenn Hoddle, Ruud Gullit, Gianluca Vialli.

Yn dilyn cyfnod gyda Fulham, fe ddychwelodd i Chelsea, lle cafodd ei flas cyntaf o hyfforddi tîm cyntaf Chelsea, a chydweithio â rhai o reolwyr gorau’r byd – Jose Mourinho, Avram Grant, Felipe Scolari, Guus Hiddink a’i ffrind mawr Carlo Ancelotti.

“Croesi’r heol”

Daeth awr fawr Paul Clement yn Chelsea gyda dyfodiad yr Eidalwr Ancelotti yn 2009-10, a chafodd ei benodi’n is-reolwr ar yr un tîm hyfforddi ag un o fawrion y clwb, Ray Wilkins.

“Ro’n i’n nerfus iawn. Ro’n i’n gwybod fod gyda fi rai sgiliau ond roedd mynd o awyrgylch cymharol ddiogel yr academi i’r tîm cyntaf yn beth mawr.

“Yng nghanolfan hyfforddi Chelsea, mae heol sy’n mynd o’r academi i’r tîm cyntaf. Ro’n i’n teimlo fel pe bawn i’n croesi’r heol o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

“Ro’n i’n gweithio gyda Carlo, sy’n hyfforddwr gwych, ac roedd Ray Wilkins yn brofiadol iawn. Ond beth dw i’n ei gofio am y tymor hwnnw yw pa mor aeddfed a chryf oedd y tîm.”

Ymhlith y garfan y tymor hwnnw roedd Petr Cech, John Terry, Michael Ballack, Frank Lampard, Michael Essien a Didier Drogba – “cymeriadau cryf”, yn ôl Paul Clement.

Collodd y tîm hwnnw yn erbyn Inter Milan – a Jose Mourinho – yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor hwnnw, ond roedden nhw eisoes wedi ennill y dwbwl – yr Uwch Gynghrair a Chwpan yr FA.

Trobwynt

Ond daeth tro ar fyd yn 2010-11 ac fe ddaeth cyfnod Carlo Ancelotti a Paul Clement yn Chelsea i ben, a hynny ar ôl colli nifer o’r chwaraewyr allweddol oedd wedi bod yn ganolog i’w llwyddiant.

“Roedd [yr ail dymor] yn wahanol iawn. Roedd rhai chwaraewyr wedi symud, daeth chwaraewyr ifainc i mewn. Fe gawson ni gyfnod gwael lle doedden ni ddim wedi gallu cael canlyniadau da.

“Wnaethon ni droi pethau o gwmpas ac roedd cyfle gyda ni ar y diwedd ond fe gollon ni yn erbyn Manchester United yn y gynghrair a Chynghrair y Pencampwyr.”

Concro Ewrop

Ers gadael Chelsea, mae partneriaeth Paul Clement a Carlo Ancelotti wedi parhau yn rhai o glybiau mwyaf Ewrop, gan gynnwys Paris St. Germain, Real Madrid a Bayern Munich, ac mae Paul Clement yn credu ei fod e wedi datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol yn y cyfnod hwnnw.

“Dw i wedi gweithio mewn tair gwlad wahanol, wedi dysgu amryw o ieithoedd ac wedi dysgu am ddiwylliant pêl-droed nifer o wledydd.

“Dw i wedi datblygu dros gyfnod o amser a dw i’n sicr yn well nag oeddwn i chwe blynedd yn ôl. Dw i wedi credu erioed na allwch chi sefyll yn stond. Rhaid i chi newid wrth i amser fynd ymlaen.”

Camu allan yn Stamford Bridge

Fel is-hyfforddwr, mae Paul Clement wedi cyflawni bron popeth sydd i’w gyflawni yn y byd pêl-droed, ond fe fydd yn deimlad arbennig iddo gamu allan yn brif hyfforddwr ar Abertawe yn erbyn Chelsea.

Ond ac yntau’n cymryd un gêm ar y tro y tymor hwn, mae’n gwrthod dweud mai hon yw gêm fwya’i yrfa.

“Mae sut fydda i’n teimlo amdani’n dibynnu sut mae’r gêm yn mynd. Roedd yn deimlad arbennig cael arwain fy nhîm allan yn Anfield. Roedd yn deimlad arbennig cael arwain fy nhîm allan yn erbyn Manchester City.”

Mae’r gêm rhwng Chelsea ac Abertawe’n dechrau am 3 o’r gloch.