Shaun Kavanagh
Mae llawer yn tybio mai o gêm Cwpan Cymru rhwng Y Seintiau Newydd a Bangor ddydd Sadwrn y bydd enillydd y bencampwriaeth y tymor hwn yn dod.

Yng Nghroesoswallt ar Chwefror 25, fe fydd y Dinasyddion yn ceisio rhoi tair colled yn olynol yn erbyn TNS yng nghefn y meddwl, a’r ffaith bod y Seintiau wedi ennill y Cwpan chwe gwaith.

Er bod Bangor hefyd yn gyn-bencampwyr wyth o weithiau, TNS biau’r tair tro diwetha’. Dyw Bangor ddim wedi dod i’r brig ers 2010.

Yn ngharfan Bangor y mae’r hogyn o Gaernarfon, Shaun Cavanagh, 19, sy’n gobeithio cael amser ar y cae i greu argraff ac arwain Bangor i’r rownd gyn-derfynol.

Mae wedi ennill ei le yn y garfan oherwydd ei berfformiadau yn y tîm o dan 19. Mi sgoriodd 25 gôl y tymor diwethaf dros garfan datblygu chwaraewyr, a chafodd 18 ymddangosiad i’r tîm cyntaf (deg o’r rheiny o’r fainc) gan sgorio tair gôl. Mae o hefyd wedi cynrychioli ysgolion a cholegau Cymru o dan 18 a 19 oed.

Eilydd sy’n gorfod gwneud ei farc

“Dw i wedi bod yn eilydd  saith gwaith y tymor hwn, ac mi wnes sgorio gôl yn erbyn Llandudno yn Nantporth diwrnod San Steffan,” meddai Shaun Cavanagh wrth golwg360.

“Mae’n hynod o rwystredig i beidio cael dechrau gemau, ond mae’n rhaid i fi aros fy nhro a phrofi fy hun. Hefyd mae chwarewyr o safon wedi ymuno â’r clwb, ac mae’n wych i wylio Gary Taylor-Fletcher ar y cae ac yn y sesiynau ymarfer, roedd o hefyd yn gwylio gêm o dan 19 ni yn ddiweddar! Mae’n broffesiynol ar y cae ac oddi arno.”

Gyda phosibilrwydd bod y clwb yn mynd yn broffesiynol yn y dyfodol agos, mae’n arwydd arall i Shaun Cavanagh a’r chwaraewyr ifanc i godi eu safon.

Y Seintiau’n “brifo”

Ond o droi at gêm dydd Sadwrn, mae Bangor yn gwybod y bydd y Seintiau’n brifo ar ôl y ddwy golled ddiweddar yn erbyn Caerfyrddin yn yr Uwch Gynghrair a St Mirren yng nghwpan Irn-Bru.

“Maen nhw wedi gosod y safon ers rhai blynyddoedd rŵan, ond rydan ar rediad da ac yn bositif; a fydd y rheolwr Ian Dawes wedi gwneud ei waith gartref.

“Hefyd, pe bai ni’n ennill bu’n agor y gwpan allan i rywun gymryd mantais.”

Dywedodd rheolwr Y Seintiau, Craig Harrison, ar ôl y gêm yn St Mirren wrth TNSFC TV: “Mae ganddon ni wythnos i baratoi rŵan – ein cwpan ni ydi o ar hyn o bryd, mae’r gwpan Irn-Bru drosodd rŵan. Mi fyddan ni’n troi’n sylw at amddiffyn y gwpan mewn gêm anodd yn erbyn Bangor.”