Newcastle 21–26 Gweilch

Y Gweilch fydd prif ddetholion rownd go-gynderfynol Cwpan Her Ewrop wedi iddynt orffen grŵp 2 gyda record berffaith wrth guro Newcastle ar Barc Kingston nos Sadwrn.

Roedd y rhanbarth o Gymru eisoes yn sicr o’u lle ar frig y tabl ond mae’r fuddugoliaeth hon yn golygu eu bod yn gorffen gyda 30 pwynt wedi chwe buddugoliaeth bwynt bonws mewn chwe gêm, tipyn o gamp.

Bu rhaid iddynt weithio’n galed i sicrhau’r fuddugoliaeth yma serch hynny gan i Newcastle ymateb yn dda i gais cynnar Rhys Webb gyda chais yr un i Daniel Temm, Rob Vickers a Chris Harris cyn yr egwyl, 21-7 y sgôr wrth droi.

Ond yn ôl y daeth y Gweilch yn yr ail hanner gyda cheisiau Hanno Dirksen a Sam Davies yn eu rhoi o fewn cyrraedd i’r tîm cartref.

Yna, ddeg munud o ddiwedd yr wyth deg fe sicrhaodd Scott Otten, nid yn unig y fuddugoliaeth, ond y pwynt bonws hefyd i’r ymwelwyr o Gymru.

Y Gweilch felly fydd y prif ddetholion yn yr wyth olaf, sydd yn sicrhau gêm gartref ar y Liberty iddynt yn erbyn Stade Francais.

.

Newcastle

Ceisiau: Daniel Temm 12’, Rob Vickers 27’, Chris Harris 32’

Trosiadau: Craig Willis 12’, 27’, 33’

.

Gweilch

Ceisiau: Rhys Webb 5’, Hanno Dirksen 56’, Sam Davies 68’, Scott Otten 71’

Trosiadau: Sam Davies 6’, 68’, 71’