Y Seintiau Newydd 4–0 Y Barri      
                                               

Y Seintiau Newydd yw pencampwyr Cwpan Nathaniel MG wedi iddynt drechu’r Barri yn y rownd derfynol yng Nghampws Cyncoed, Caerdydd nos Sadwrn.

Bu rhaid aros tan y chwarter awr olaf am y goliau ond sgoriodd Chris Seargeant hatric wrth i’r deiliaid gadw eu gafael ar Gwpan y Gynghrair gyda buddugoliaeth gyfforddus yn y diwedd.

Dechreuodd y Seintiau’n gryf ac roedd angen dau arbediad da gan Mike Lewis i atal Alex Darlington a Ryan Brobbel yn yr ugain munud agoriadol.

Cafodd Aeorn Edwards gyfle da i’r Seintiau wedi hynny hefyd ond cafodd ei beniad ei glirio oddi ar y llinell gan Chris Hugh.

Roedd Hugh yn y lle iawn ar yr adeg iawn i glirio cynnig arall gan Edwards oddi ar y llinell hanner ffordd trwy’r ail hanner wrth i’r gêm ddilyn patrwm tebyg wedi’r egwyl.

Daeth cyfle gorau’r Barri funud yn ddiweddarach ond tarodd Jordan Cotterill y trawst gyda chynnig da o ochr y cwrt cosbi.

Roedd hi’n ddi sgôr o hyd gyda deuddeg munud yn weddill ond dangosodd y Seintiau eu ffitrwydd, eu profiad a’u proffesiynoldeb yn y munudau olaf.

Agorodd Seargeant y llifddorau wrth grymanu ergyd gywir i’r gornel uchaf o ochr y cwrt cosbi cyn creu’r ail i Adrian Cieslewicz yn fuan wedyn.

Sgoriodd Seargeant ei ail ef a thrydedd ei dîm wedi hynny yn dilyn dyfalbarhad Scott Quigley. Yna, cwblhaodd ei hatric funud o ddiwedd y naw deg pan wyrodd ei ergyd o du allan i’r cwrt cosbi i gornel isaf y gôl.

Efallai fod pedair i ddim braidd yn hallt ar y Barri ond does dim dwywaith fod y Seintiau yn llawn haeddu codi’r cwpan.

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Pryce, Saunders, Rawlinson, Marriott, Routledge, Edwards, Brobbel  Cieslewicz (Mullan 88’), Darlington (Seargeant 46’), Draper (Quigley 46’)

Goliau: Seargeant 78’, 84’, 89’, Cieslewicz 80’

.

Y Barri

Tîm: Lewis, Morgan (Sainty 82’), Cooper, Evans, Hugh, Saddler, Hartley (Gerrard 75’), Watkins, Cotterill, Fahiya, Nagi

.

Torf: 1,116