Gylfi Sigurdsson
Mae disgwyl i ymosodwr Abertawe, Gylfi Sigurdsson aros yn Stadiwm Liberty er gwaethaf diddordeb gan Everton a West Ham.

Mae lle i gredu y byddai’n rhaid i unrhyw dîm sydd am ei ddenu dalu hyd at £25 miliwn. Fe arwyddodd gytundeb pedair blynedd newydd haf diwetha’.

Gylfi Sigurdsson yw prif sgoriwr yr Elyrch yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn gyda chwe gôl, ac fe enillodd wobr Chwaraewr y Flwyddyn y clwb y llynedd.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement ei fod yn awyddus i ddal ei afael ar un o’i chwaraewyr pwysicaf yn ystod y ffenest drosglwyddo bresennol, sy’n cau ar ddiwedd y mis.

“Dw i am gadw Gylfi yma, ry’n ni mewn sefyllfa lle’r y’n ni eisiau ennill gemau ac er mwyn cael y cyfle i wneud hynny ar y lefel yma, rhaid i chi gadw’ch chwaraewyr gorau.”

Yn y cyfamser, mae trafodaethau ar y gweill rhwng Abertawe a Birmingham wrth i’r clwb o ganolbarth Lloegr geisio arwyddo’r asgellwr Wayne Routledge.