Owen Williams (Llun: leicestertigers.com)
Mae maswr Caerlŷr, Owen Williams, wedi arwyddo cytundeb â Chaerloyw ar gyfer y tymor nesa’.

Mae’r chwaraewr wedi chwarae 81 gwaith i’r Teigrod gyda 17 ymddangosiad hyd yn hyn y tymor hwn, ac mae wedi sgorio 568 o bwyntiau ers symud o’r Scarlets yn 2012.

Mae cyfarwyddwr Caerloyw, David Humphreys, yn barod wedi arwyddo Carl Fearns, Fraser Balmain a Val Rapava Ruskin ar gyfer y tymor nesa’.

Fe fydd Owen Williams yn ymuno â chyd chwaraewyr Cymru, Richard Hubbard a Ross Moriarty, er bod cyd-Gymro arall, James Hook, yn dychwelyd i’r Gweilch y tymor nesa’.

Mae Owen Williams eto i gael cap dros Gymru, ond mae ei enw’n cael ei grybwyll ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gyda’r garfan yn cael ei chyhoeddi’n swyddogol ddydd Mawrth nesa’ (Ionawr 17).