Sam Warburton
Mae adroddiadau’n awgrymu bod Sam Warburton am roi’r gorau i fod yn gapten tîm rygbi Cymru er mwyn medru canolbwyntio ar gadw’i le yn rheng ôl y tîm cenedlaethol.

Fe fydd prif hyfforddwr dros-dro Cymru, Rob Howley, yn cyhoeddi carfan Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Mawrth nesaf. Er y bydd Sam Warburton yn rhan o’r garfan honno, mae’n ymddangos y bydd yn rhoi’r gorau i’r rôl arweinol y mae wedi ei chymryd ers 2011.

Mae lle Sam Warburton dan fygythiad gan gefnwyr, gyda Justin Tipuric, blaenasgellwr agored Cymru yn ystod gemau rhyngwladol yr hydref, a Ross Moriarty yn llygadu’r safle.

Os fydd Sam Warburton yn sefyll lawr fel capten mae’n edrych yn debygol mai Alun Wyn Jones fydd yn cymryd y llyw gyda Gethin Jenkins, fyddai wedi bod y posibiliad arall, yn wynebu colli’r bencampwriaeth yn gyfan gwbwl oherwydd anafiadau.