Bydd rhaid i amddiffynwyr Abertawe gadw Harry Kane yn dawel pan fyddan nhw’n herio Spurs yn White Hart Lane ddydd Sadwrn, yn ôl y rheolwr Bob Bradley.

Ildiodd yr Elyrch bedair gôl ddydd Sadwrn diwethaf wrth iddyn nhw guro Crystal Palace o 5-4 yn Stadiwm Liberty.

Mae Harry Kane wedi gwella o anaf i’w ffêr ac fe fydd ymosodwr Lloegr wedi cael hwb ar ôl arwyddo cytundeb newydd gyda’i glwb yr wythnos hon.

Fe fydd rhaid i amddiffynwyr Abertawe ganolbwyntio i’w gadw allan o’r gêm, yn ôl rheolwr Americanaidd yr Elyrch.

“Mae Harry Kane yn rhyfeddol wrth orffen ac mae angen canolbwyntio go iawn drwy gydol y gêm yn ei erbyn e.

“Ry’ch chi’n rhoi cyfle iddo fe ac mae ganddo fe record gadarn o fwrw’r targed a sgorio gwahanol fathau o goliau.

“Mae e’r math o ymosodwr lle mae rhaid i bawb ganolbwyntio bob eiliad gan fod e’n cosbi’r mymryn lleiaf o wendid. Felly mae’n profi ymwybyddiaeth a chanolbwyntio’n bennaf.”

Yn ôl Bob Bradley, mae’n rhaid i Abertawe ganfod ffordd o beidio ag ildio goliau oddi ar chwarae gosod ar ôl ildio pedair gôl o giciau gornel yn eu chwe gêm diwethaf.

“Pan ydych chi’n dadansoddi gêm wallgo – dyna oedd y gêm yn erbyn Palace – mae’n ymwneud yn bennaf â chwarae gosod.

“Oedd, roedd hi’n gêm lle’r oedd gyda ni broblemau amddiffynnol, ond roedd yn enghraifft wych o gêm lle’r oedd chwarae gosod o’r ddwy ochr wedi tindroelli’r gêm.

“Dydyn ni ddim wedi gallu ychwanegu at ein llechen lân yn erbyn Watford, ond mae angen y meddylfryd arnon ni ei bod yn anodd chwarae yn ein herbyn ni i ddod yn dîm mwy cyflawn.”

Talcen caled yn White Hart Lane

Mae Abertawe wedi colli pob gêm yn erbyn Spurs yn White Hart Lane ers iddyn nhw gael eu dyrchafu i’r Uwch Gynghrair, a dydyn nhw ddim wedi eu curo mewn gêm gynghrair yng ngogledd Llundain ers 1982.

Ychwanegodd Bob Bradley: “Dw i wedi clywed am y record ac wedi mynd yn ôl i edrych ar ychydig o’r gêm yno y tymor diwethaf.

“Pan ydych chi’n chwarae yn eu herbyn nhw, mae angen i chi wneud tipyn o bethau da oherwydd maen nhw’n gwasgu ac yn ei gwneud hi’n anodd i chi fynd i rythm wrth basio.”

Yn ôl Bob Bradley, fe fydd rhaid i Abertawe fanteisio ar y bylchau amddiffynnol sy’n cael eu creu wrth i gefnwyr Spurs symud i fyny’r cae wrth ymosod.

“Mae cyfleoedd i symud gan fod Kyle Walker a Danny Rose yn gefnwyr ymosodol iawn. Mae lle y tu ôl iddyn nhw os gallwch chi symud y bêl yn gyflym yn y sefyllfaoedd hynny.”