Gareth Bale yn dathlu (Llun: Manu Fernandez/AP)
Mae’r wefan newyddion Sbaeneg, Marca, yn adrodd bod seren tîm pêl-droed Cymru, Gareth Bale, am arwyddo cytundeb pum mlynedd arall gyda Real Madrid tan 2021.

Mae disgwyl i’r cytundeb newydd olygu y bydd y chwaraewr o Gymru ymhlith enillwyr mwya’r clwb, sy’n cynnwys y capten Sergio Ramos a Cristiano Ronaldo.

Ond mae’n debyg fod asiant Gareth Bale wedi gwadu’r honiadau.

Chwaraeodd Gareth Bale ran allweddol yn llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2016 yn gynharach eleni wrth iddyn nhw gyrraedd y rownd gynderfynol.

Ac mae ei gyfraniad i’w glwb wedi ei gydnabod wedi iddo ennill teitl Cynghrair Pencampwr UEFA am sgorio 19 o goliau La Liga i’w glwb y tymor diwethaf.

Mae disgwyl hefyd i Cristiano Ronaldo adnewyddu ei gytundeb yntau gyda Real Madrid ym mis Medi.