Warren Gatland (Llun: Gareth Fuller/PA)
Bydd tîm rygbi’r Llewod yn cyhoeddi pwy fydd eu prif hyfforddwr ar gyfer eu taith yr haf nesaf i Seland Newydd yng Nghaeredin ar 7 Medi.

Mae disgwyl i hyfforddwr Cymru Warren Gatland gael ei benodi i’r swydd am yr eilwaith wedi iddo arwain y Llewod i fuddugoliaeth dros Awstralia yn 2013.

Byddai hyfforddwr Lloegr Eddie Jones wedi bod yn y ras hefyd oni bai ei fod wedi dweud yn bendant, ar ôl i Loegr guro’r gyfres yn erbyn y Wallabies 3-0 ym mis Mehefin, nad yw ar gael.

Meddai Eddie Jones, sydd wedi mwynhau blwyddyn ryfeddol wrth y llyw ar ôl i Loegr hefyd ennill eu Camp Lawn gyntaf ers 13 mlynedd, ei fod eisiau canolbwyntio ar baratoi tîm Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd yn Japan yn 2019.

Mae’n golygu bod Warren Gatland yn debygol o gael ei benodi i’r swydd ac mae Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi caniatáu’r hyfforddwr 52 mlwydd oed o Seland Newydd i gymryd cyfnod sabothol o wyth mis o’i swydd i ymgymryd â’r rôl.

Yr unig ddewis arall yn lle Warren Gatland yw hyfforddwr Iwerddon Joe Schmidt, ond mae ei stoc wedi gostwng ers i’r Gwyddelod ennill teitlau’r Chwe Gwlad yn 2014 a 2015 ac nid oes cymal rhyddhau yn ei gytundeb.

Ail reng Cymru Alun Wyn Jones a bachwr Lloegr Dylan Hartley yw’r ddau ffefryn i fod yn gapten ar y Llewod.