Mae Man City yn ystyried cynnig £50 miliwn am Aaron Ramsey yn ôl papur newydd The Daily Star.

Mae gan chwaraewr canol cae Cymru gytundeb i chwarae i glwb Arsenal am ddwy flynedd arall.

Neithiwr fe sgoriodd Tom Bradshaw – sydd wedi arwyddo cytundeb o dair blynedd gwerth £650,000 gyda chlwb pêl-droed Barnsley yn ddiweddar – ddwy gôl wrth i’w dîm drechu Western-Super-Mare 6-0.

Mae si fod clwb pêl-droed Aberdeen eisiau benthyg chwaraewr canol cae Lerpwl a Chymru dan-21, Jordan Williams, am flwyddyn.

Mae West Ham United wedi dangos diddordeb yng nghefnwr troed chwith Charlton Athletic, Morgan Fox, a fu yng ngharfan Chris Coleman fis Medi’r llynedd.

Bu sïon hefyd bod Abertawe wedi ail-danio eu diddordeb yn Hal Robson-Kanu. Mae ymosodwr Cymru wedi bod heb glwb ers i Reading wrthod ymestyn ei gytundeb.

Mae Clwb Pêl-droed Charlton yn cadw llygad ar un o gyn-chwaraewyr dan-21 Cymru, Louis Thompson.

Mae disgwyl i gefnwr Cymru, Adam Matthews adael Clwb Pêl-droed Sunderland yn y deuddydd nesaf. Bristol City yw’r tîm sydd fwyaf tebygol o brynu’r amddiffynnwr gwerth £2 filiwn.

Gunter am y Prem?

Mae si fod Hull eisiau arwyddo cefnwr troed-dde Reading a Chymru, Chris Gunter. Mae Gunter wedi arwyddo cytundeb newydd yn ddiweddar gyda ‘chymal i’w werthu’ yn ddim ond £1.2 miliwn… mae Hull angen chwaraewyr oherwydd anafiadau.

Mae Joe Allen wedi cyffroi ar ôl symud o Lerpwl i Stoke am £13 miliwn, ac wedi cael bendith un o gefnogwyr ei gyn-glwb.

“Roeddwn i’n gobeithio y byddai e’n gadael Lerpwl,” meddai Ieuan Wyn Rees.

“Dim achos roedd e’n chwaraewr gwael, ond achos roedd e wedi datblygu mor gymaint ei fod e’n rhy dda i fod ar y fainc gyda’r eilyddion yn Lerpwl. Pob lwc iddo yn y dyfodol.”

Tomos Rhys Jones