Joe Allen yn dilyn pencampwriaeth Ewro 2016
Mae un o gefnogwyr tîm pêl droed Stoke wedi dweud wrth golwg360 ei fod ‘ar ben ei ddigon’ o glywed y bydd chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen, yn ymuno â’r tîm.

Daeth y cyhoeddiad heddiw bod y chwaraewr 26 oed wedi arwyddo cytundeb pum mlynedd gyda’r clwb, ar ôl i Lerpwl ei werthu am £13 miliwn.

“Mae’n benodiad da iawn,” meddai Dilwyn Roberts-Young.

“Mae’r math o chwaraewr sydd ei angen, mae (Glenn) Whelan, sy’n chwarae canol cae i Stoke yn 33 oed nesa’ ac roedd rhaid cynllunio ymlaen.”

Dywedodd y byddai penodiad Joe Allen yn rhoi “ail-wynt” i Glenn Whelan, gan roi blwyddyn neu ddwy arall iddo gyda’r clwb.

“Potensial” i fod yn arwr

“Ro’n i draw yn Ffrainc rhyw deirgwaith ac ron i’n ei weld o (Joe Allen) yn wych. Mae o wedi datblygu cymaint,” meddai.

“Mae ganddo dipyn o botensial i fod yn arwr ffans hefyd, fydda’ hwnna’n gyffrous, achos ry’n ni’n licio fod tipyn o gythraul ynddo fe.”

Mae Dilwyn Roberts-Young wedi cefnogi Stoke ers iddo fod yn blentyn, ac er bod ‘na ambell Gymro wedi bod yn y tîm, does dim un, meddai e, wedi “gwneud ei farc” yn y clwb “ers sbel fawr.”

“Mae’r tîm hyfforddi i gyd yn Gymry yna. Marc Hughes y rheolwr, Mark Bowen yn is-reolwr ac Eddie Niedzwiecki (hyfforddwr y tîm cyntaf) yn gyn-chwaraewr rhyngwladol i Gymru,” ychwanegodd.

Gobaith at y dyfodol

Gorffennodd y tîm yn y nawfed safle yng Nghynghrair Lloegr y tymor diwethaf, ac mae penodiad Joe Allen yn gwneud pethau’n “gyffrous iawn” i’r tîm a’r cefnogwyr, meddai.

“Mae nifer o chwaraewyr da yn Stoke a fydd, dwi’n meddwl, yn gwneud iddo (Joe Allen) deimlo y bydd y tîm yn gwthio ‘mlaen yn eitha’ uchelgeisiol,” meddai Dilwyn Roberts-Young.