Joe Allen (llun: CBDC)
Mae chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen, wedi ymuno â chlwb pêl-droed Stoke City am £13 miliwn.

Mae’r chwaraewr 26 oed wedi arwyddo cytundeb pum mlynedd gyda’r clwb, ar ôl gadael Lerpwl.

 

“Roeddwn i’n gyffrous iawn unwaith y clywais fod gan y clwb ddiddordeb ynof i, a doedd hi ddim yn benderfyniad anodd,” meddai Joe Allen.

“Rwy’n hynod o gyffrous am fy nyfodol yma yn Stoke City.”

 

‘Edmygu ers amser’

 

Gwnaeth y chwaraewr argraff fawr ar benaethiaid y clwb yn dilyn ymgyrch Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2016 eleni gyda’r garfan yn cyrraedd y rowndiau cynderfynol.

Fe fydd y chwaraewr yn awr yn chwarae dan gyn-reolwr Cymru, Mark Hughes yn Stoke.

Yn ôl Prif Weithredwr y Potters, Tony Scholes: “Mae Joe yn chwaraewr mae Mark wedi’i edmygu am beth amser.

“Roedd rhaid inni weithredu’n gyflym i sicrhau’r cytundeb, ond rydym wrth ein boddau ein bod wedi llwyddo i’w gael yma,” ychwanegodd.