Mae Morgannwg wedi colli o 33 o rediadau yn erbyn Gwlad yr Haf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London drwy ddull Duckworth-Lewis.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Gwlad yr Haf yn codi uwchben Morgannwg yn y tabl, a’r Cymry bellach yn y trydydd safle.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 279 wrth gwrso 313 am y fuddugoliaeth ar ôl i’r nod leihau o 323 oherwydd y glaw.

Cipiodd Craig Overton, Lewis Gregory a Roelof van der Merwe dair wiced yr un ar ôl i Peter Trego osod y sylfeini gyda batiad o 80.

Daeth rhywfaint o achubiaeth gan Andrew Salter wrth iddo fe daro 42 tua diwedd y batiad, ond roedd y niwed eisoes wedi cael ei wneud.

Manylion

Dechrau digon cadarn gafodd Gwlad yr Haf ar ôl cael eu gwahodd i fatio gan Forgannwg. Roedd y capten Jim Allenby a Johann Myburgh yn edrych yn sefydlog cyn i Myburgh yrru i’r cyfar i gyfeiriad David Lloyd, a hwnnw’n dal ei afael ar y bêl, a’r tîm cartref yn 63-1 ar ôl 10 pelawd.

Ond parhaodd Allenby i lywio’r batiad, ac fe gyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 56 o belenni, gan daro pedwar pedwar ar ei ffordd. Ond buan yr oedd yn dychwelyd i’r pafiliwn ar ôl cael ei redeg allan gan Jacques Rudolph am 53, a phartneriaeth o 86 gyda Peter Trego wedi dod i ben. Cyrhaeddodd Trego ei hanner canred bron yn syth ar ôl y wiced, ac yntau wedi taro pum pedwar ac un chwech ar ei ffordd i’r garreg filltir.

Aeth Trego ymlaen i sgorio 80 cyn clatsio unwaith yn ormod, a chael ei ddal ar ymyl y cylch ar yr ochr agored gan Michael Hogan oddi ar y troellwr Andrew Salter. Erbyn hynny, roedd Gwlad yr Haf yn 215-3 ar ôl partneriaeth o 66 rhwng Trego a Mahela Jayawardene. Dychwelodd Jayawardene i’r pafiliwn yn dynn ar sodlau Trego, wrth iddo gael ei fowlio gan Michael Hogan am 37 wrth ergydio’n groes i linell y bêl, a Gwlad yr Haf yn 223-4.

Ychwanegodd James Hildreth a Lewis Gregory 40 at y cyfanswm cyn i Hogan ddarganfod coes Gregory o flaen y wiced am 24. Daeth ail wiced i Hogan yn y belawd, wrth i Hildreth golli ei wiced yn union yr un modd â Gregory, a Gwlad yr Haf wedi llithro i 264-6.

Aeth 264-6 yn 280-7 wrth i Wagg ddarganfod coes van der Merwe o flaen y wiced. Sicrhaodd Ryan Davies (14 heb fod allan) a Craig Overton (37 heb fod allan) fod y tîm cartref yn cyrraedd 322-7 erbyn diwedd y batiad.

Gorffennodd Hogan gyda ffigurau o 3-62, a chipiodd Wagg ddwy wiced am 55.

Dechrau digon addawol ond pwyllog gafodd Morgannwg i’r batiad wrth iddyn nhw gyrraedd 69 cyn colli eu wiced gyntaf yn y drydedd pelawd ar ddeg. Y capten Jacques Rudolph oedd y batiwr cyntaf allan, wedi’i ddal gan Hildreth oddi ar fowlio Roelof van der Merwe am 38.

Erbyn diwedd y 15 pelawd cyntaf, roedd y Cymry’n 78-1, bymtheg rhediad y tu ôl i sgôr cyfatebol Gwlad yr Haf ar yr un adeg yn eu batiad nhw. Cafodd Will Bragg ei fowlio gan van der Merwe am 10 ar ddiwedd yr ail belawd ar bymtheg, gan ddod â Colin Ingram i’r llain. Cwympodd y drydedd wiced o fewn dim o dro, wrth i Lloyd ddarganfod dwylo Craig Overton oddi ar fowlio Gregory am 46.

Gyda’r cyfanswm yn 98-3, daeth Ingram a Donald ynghyd. Roedd yn rhaid addasu’r nod yn dilyn cyfnod o law, a Morgannwg angen 313 oddi ar 47 o belawdau yn y pen draw. Ychwanegodd Ingram a Donald 69 cyn i Ingram gael ei ddal gan Myburgh ar y ffin ochr agored oddi ar fowlio Overton am 32.

Naw rhediad yn unig ychwanegodd Donald a Wallace cyn i Donald ddarganfod dwylo diogel Lewis Gregory ar y ffin ar ochr y goes oddi ar fowlio Overton. Gyda phum wiced yn weddill, roedd hi’n ymddangos bod Morgannwg yn wynebu talcen caled wrth i Mark Wallace a Graham Wagg ddod at ei gilydd yn y canol. Ychwanegon nhw 21 cyn i Wallace gael ei ddal gan Max Waller wrth yrru tu ôl i’r wiced ar yr ochr agored oddi ar fowlio Gregory am 17, a Mogannwg mewn dyfroedd dyfnion ar 197-6.

Aeth 197-6 yn 202-7, wrth i Craig Meschede gael ei stympio gan Ryan Davies oddi ar fowlio van der Merwe am 3. 21 o rediadau gafodd eu hychwanegu gan Andrew Salter a Graham Wagg cyn i Wagg gael ei ddal gan y wicedwr Ryan Davies oddi ar fowlio Overton am 17.

Cafwyd ymdrech lew gan Salter a Timm van der Gugten am y nawfed wiced wrth iddyn nhw daro 19 oddi ar belawd rhif 43, a’r nod i’r Cymry bellach yn 49 oddi ar 24 o belenni.

Tarodd Salter 42 cyn cael ei ddal gan y wicedwr Davies oddi ar Gregory, a Morgannwg yn 274-9, a’r nod yn 39 oddi ar 18 o belenni.

Ond cafodd Timm van der Gugten ei ddal gan Waller oddi ar Groenewald am 21 i sicrhau’r fuddugoliaeth i Wlad yr Haf o 33 rhediad trwy ddull Duckworth-Lewis.

‘Un bartneriaeth fawr i ffwrdd’

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd Mark Wallace wrth Golwg360: “Ar y dechrau, roedd hi’n teimlo fel pe baen nhw [Gwlad yr Haf] ugain rhediad yn brin ond fe lusgon ni’r cyfan yn ôl. Roedd y cyfanswm yn addas ar gyfer y llain.

“Roedden ni’n eitha hyderus hanner ffordd drwodd ond wrth gwrso unrhyw beth dros 300 rhaid i chi fatio’n dda, ond wnaethon ni ddim cweit cael y cyfanswm oedd ei angen. Roedd angen i un batiwr gael 80 neu 90,  ac roedden nhw’n cipio’r wicedi ar yr adegau cywir.

“Roedden nhw ychydig yn well na ni am wneud y pethau sylfaenol. Roedden nhw wedi adeiladu partneriaethau o 50 i 60, ond dim ond 30 i 40 gawson ni. Roedden nhw, felly, ychydig ar y blaen i ni o’r dechrau i’r diwedd.

“Roedden ni fwy na thebyg un bartneriaeth i ffwrdd o gael cyfanswm mawr. Wnaethon nhw roi’r pwysau arnon ni a’n gorfodi ni i gymryd risg, a chael wicedi ar yr adegau cywir. Ond nhw oedd y tîm gorau.”