Fe fydd Stadiwm Principality yn barod i gynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2017, medd arweinydd y prosiect, Alan Hamer.

Bydd rownd derfynol prif gystadleuaeth clybiau pêl-droed Ewrop yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar Fehefin 3 y flwyddyn nesaf.

Ond cyfaddefodd Hamer, cyn-Brif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, fod maint y ddinas yn cynnig “her” i’r trefnwyr ac fe ddywedodd ei fod yn hyderus na fyddai trafferthion trafnidiaeth gyhoeddus yn amharu ar y digwyddiad fel y gwnaeth yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd y llynedd.

Mae’r stadiwm eisoes wedi cynnal rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd, a rownd derfynol Cwpan yr FA chwe gwaith yn y gorffennol.

Wrth drafod y ffeinal ym Milan nos Sadwrn, dywedodd Hamer wrth y BBC: “Bydd llygaid y byd ar Gaerdydd y flwyddyn nesaf.

“Bydd y gêm yn cael ei gwylio gan 200 miliwn o bobol dros y byd ac maen nhw’n disgwyl i 300,000 o bobol fynychu’r parth cefnogwyr ym Milan dros gyfnod o bedwar diwrnod.”

Ychwanegodd Hamer y bydd “llawer iawn mwy” na 90 munud o bêl-droed ar gael yn y brifddinas.

“Ry’n ni’n credu bod gyda ni gynllun clir ac yn amlwg pe na bai Uefa yn credu bod gyda ni gynllun yna fydden nhw ddim wedi cael y digwyddiad.”