Mae'r dyfalu yn parhau a fydd Ryan Giggs yn aros yn Old Trafford.
Mae Jose Mourinho wedi arwyddo cytundeb i reoli tîm Manchester United am y tair blynedd nesaf, ac mae son y bydd ar gyflog o £15 miliwn y flwyddyn.

Yn 53 oed, mae wedi ennill prif gynghreiriau Ewrop gyda chlybiau ym Mhortiwgal, Lloegr, Yr Eidal a Sbaen.

Fe enillodd Cynghrair y Pencampwyr yn 2004 gydag FC Porto a chydag Inter Milan yn 2010.

“Yn syml, Jose yw’r rheolwr pêl-droed gorau yn y byd,” meddai Ed Woodward, Prif Weithredwr Man U.

Ychwanegodd Mourinho: “Mae cael bod yn reolwr Manchester United yn anrhydedd arbennig ym myd pêl-droed…mae rhamant yn perthyn i’r clwb nad oes gan yr un clwb arall.”

Nid yw’n hysbys eto a fydd Ryan Giggs yn cadw’i le yn nhrefn hyfforddi Man U.

Jose?

Fe gafodd Jose Mourinho ei eni ar 26 Ionawr 1963 yn Setubal, Portiwgal.

Fe chwaraeodd 94 o gemau i Rio Ave, Belenenses, Sesimbra a Comercio e Industria rhwng 1980 ac 1987, gan sgorio 13 gôl.

Bu’n fwy llwyddiannus yn rheoli timau Benfica, Leiria, FC Porto, Chelsea, Inter Milan a Real Madrid – mae wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr ddwywaith a sawl cynghrair a chwpan genedlaethol.