Torrodd batwyr agoriadol Swydd Gaint record sirol wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth o 10 wiced dros Forgannwg yng Nghaergaint ddydd Mercher.

Daniel Bell-Drummond (86*) a Tom Latham (79*) yw’r batwyr agoriadol cyntaf ers 1954 i adeiladu partneriaeth o dros 100 yn y ddau fatiad mewn gêm Bencampwriaeth, gan efelychu Arthur Phebey ac Arthur Fagg.

Dyma’r tro cyntaf i’r ddau fatiwr fatio gyda’i gilydd i’r sir.

Sgorion nhw 131 rhyngddyn nhw yn y batiad cyntaf, a 190 yn yr ail fatiad.

Crynodeb

Ar ôl penderfynu batio’n gyntaf, sgoriodd Morgannwg 260 yn eu batiad cyntaf, wrth i Mitchell Claydon gipio pedair wiced am 59, a chipiodd Matt Coles dair wiced am 26. Craig Meschede (63) oedd yr unig fatiwr i sgorio hanner canred i Forgannwg yn y batiad.

Wrth ymateb, sgoriodd Swydd Gaint 488 yn eu batiad cyntaf, wrth i bump chwaraewr sgorio hanner canred – Daniel Bell-Drummond (84), Joe Denly (58), Tom Latham (53), Darren Stevens (58) a Claydon (55). Michael Hogan (4-91) a Meschede (3-105) oedd yr unig fowlwyr oedd wedi llwyddo i raddau helaeth yn erbyn y batwyr.

Roedd Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion yn eu hail fatiad wrth iddyn nhw gyrraedd 156-5 cyn i David Lloyd (107) a Graham Wagg (106) adeiladu partneriaeth o 215 am y chweched wiced. Will Bragg (51) oedd yr unig fatiwr arall i sgorio hanner canred, wrth i Darren Stevens (4-79) a Matt Coles (3-80) achosi niwed i’r Cymry.

Wrth gwrso 187 am y fuddugoliaeth, cyrhaedodd y Saeson y nod yn ystod sesiwn y prynhawn ar y diwrnod olaf i ychwanegu at ddechrau siomedig Morgannwg i’r tymor.