Mae’n adnodd sydd wastad angenrheidiol i bawb sydd yn dilyn twrnamentau pêl-droed – ac eleni o’r diwedd fe fydd modd cofnodi hynt a helynt tîm Cymru yn Ewro 2016 ar eich siart wal eich hunain!

Y siart yn Golwg yr wythnos hon yw’r cyntaf o’i fath yn y Gymraeg i gynnwys enw Cymru arno, ac mae’n rhan o atodiad swfenîr sydd hefyd yn cynnwys cyfweliad ag un o sêr tîm Cymru, Chris Gunter.

Yn ogystal â hynny, fe fydd y rhifyn arbennig o’r cylchgrawn sydd yn edrych ymlaen at yr Ewros hefyd yn cynnwys ffeithiau difyr am dîm Cymru a’i chwaraewyr, a map o leoliadau gemau’r tîm yn Ffrainc.

“Yn amlwg mae’r cyffro’n cynyddu ynglŷn ag Ewro 2016 yn Ffrainc, a Chymru’n cyrraedd rowndiau terfynol un o’r ddwy brif bencampwriaeth ryngwladol am y tro cyntaf ers 1958,” meddai Siân Sutton, Golygydd cylchgrawn Golwg.

“I nodi mis cyn dechrau’r bencampwriaeth, roedd yn amser priodol i ni ryddhau ein siart wal arbennig yng nghylchgrawn Golwg – y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg, gydag enw Cymru arno.

“Gobeithio bydd y siart yn cael lle amlwg ar waliau miloedd o dai yng Nghymru a thu hwnt fis Mehefin, ac y bydd nifer o’r cefnogwyr sy’n dilyn y tîm yn Ffrainc yn mynd â’r atodiad gyda nhw ar y daith.”

Gunter am greu gwallgofrwydd

Bu gohebydd golwg360 Iolo Cheung yn sgwrsio â Chris Gunter yn arbennig ar gyfer yr atodiad, ac yn amserol iawn mae cefnwr Reading yn dwyn cymariaethau rhwng Cymru a phencampwyr newydd Uwch Gynghrair Lloegr, Caerlŷr, yn y cyfweliad.

Yn ôl Gunter, aelod mwyaf profiadol y garfan genedlaethol, byddai gweld Caerlŷr yn ennill y gynghrair ac yna Cymru’n ennill Ewro 2016 yn golygu mai eleni “fyddai’r tymor pêl-droed mwyaf gwallgof erioed!”

Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd Gareth Bale ac Aaron Ramsey i Gymru, ond yn pwysleisio mai’r ysbryd tîm, fel gyda Chaerlŷr, yw’r peth pwysig i Gymru.

“Fe fyddwn ni gyd yn gweithio â’n gilydd er mwyn sicrhau ein bod ni’n cael twrnament da, achos mae’r tîm eu hangen nhw i chwarae’n dda, ond maen nhw angen i’r tîm chwarae’n dda hefyd.”

Mae’r atodiad arbennig, sy’n cynnwys y siart wal Ewro 2016 yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg , 5 Mai.