Lloyd Williams heb wella
Mae’r Gleision wedi gwneud pedwar newid i’w tîm nhw wrth iddyn nhw baratoi i herio’r Gweilch yn y gêm gyntaf ar ‘Ddydd y Farn’ ddydd Sadwrn yn Stadiwm y Principality.

Ond dyw Lloyd Williams na Rhys Patchell wedi gwella mewn pryd ar gyfer yr ornest, ac felly fe fydd Lewis Jones ac Aled Summerhill yn cymryd eu lle.

Bydd y ddau ranbarth yn gobeithio sicrhau buddugoliaeth er mwyn cadw’u gobeithion o orffen yn chwech uchaf y Pro12 yn fyw, a chyda hynny lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Ar hyn o bryd mae’r Gleision yn wythfed, pwynt yn unig y tu ôl i Gaeredin sy’n chweched, tra bod y Gweilch yn nawfed a phedwar pwynt y tu ôl i’r Albanwyr.

‘Yn ein dwylo ni’

Gyda’r Gleision yn herio Caeredin ar ddiwrnod olaf y gystadleuaeth, mae’r tîm o’r brifddinas yn gwybod y bydd eu tynged yn eu dwylo eu hunain os ydyn nhw’n ennill ar y penwythnos.

“Rydyn ni wedi ennill pedair o’n pump darbi y tymor yma ac fe fyddai’n wych gallu’i gwneud hi’n chwech allan o chwech gyda buddugoliaeth yn erbyn y Gweilch,” meddai prif hyfforddwr y Gleision Danny Wilson.

Mae disgwyl torf o dros 65,000 ar gyfer yr ornest sydd yn dechrau am 2.30yp, gyda’r Scarlets a’r Dreigiau yn herio’i gilydd yn yr un stadiwm wedyn am 5.00yp.

“Y gobaith yw, gyda thorf mor fawr yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, a llawer fydd yn amlwg ddim â thocyn tymor gyda rhanbarth, y byddan nhw’n mwynhau beth welan nhw ac eisiau gweld mwy,” meddai prif hyfforddwr y Gweilch Steve Tandy.

Tîm y Gleision: Dan Fish, Aled Summerhill, Garyn Smith, Rey Lee-Lo, Tom James, Gareth Anscombe, Lewis Jones; Gethin Jenkins (capt), Matthew Rees, Taufa’ao Filise, Josh Turnbull, James Down, Sam Warburton, Ellis Jenkins, Josh Navidi

Eilyddion y Gleision: Kristian Dacey, Brad Thyer, Dillon Lewis, Jarrad Hoeata, Manoa Vosawai, Tomos Williams, Jarrod Evans, Gavin Evans

Tîm y Gweilch: Dan Evans, Hanno Dirksen, Jonathan Spratt, Owen Watkin, Ben John, Dan Biggar, Rhys Webb (capt); Nicky Smith, Scott Baldwin, Dmitri Arhip, Adam Beard, Rynier Bernardo, Olly Cracknell, James King, Dan Lydiate.

Eilyddion y Gweilch: Sam Parry, Gareth Thomas, Aaron Jarvis, Rory Thornton, Sam Underhill, Brendon Leonard, Sam Davies, Josh Matavesi.