Ar drothwy’r tymor newydd, mae tîm rygbi’r gynghrair Crusaders Gogledd Cymru’n chwilio am berchennog newydd.

Mae bwrdd cyfarwyddwyr y tîm sydd wedi’i leoli yn Wrecsam yn gwahodd ceisiadau ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n fodlon gwerthu’r rhan fwyaf o gyfrannau i’r perchennog neu berchnogion mwyaf addas.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn penderfyniad prif weithredwr a sylfaenydd y clwb, Jamie Thomas i gamu o’r neilltu.

Bydd y tîm yn chwarae yn yr Adran Gyntaf y tymor hwn, a dywedodd llefarydd eu bod nhw’n anelu i gyrraedd y Super League unwaith eto.

Byddai’n rhaid i unrhyw gytundeb i brynu’r clwb gael sêl bendith y Gynghrair.

Bydd y Crusaders yn herio Doncaster oddi cartref ddydd Sul nesaf.