Wrecsam 2–0 Bromley                                                                     

Llwyddodd Wrecsam i ennill am y tro cyntaf mewn pum gêm yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn wrth i Bromley ymweld â’r Cae Ras.

Roedd goliau hanner cyntaf Fowler a Jennings yn ddigon i’r Dreigiau wrth iddynt neidio i’r wythfed safle yn y tabl.

Hanner awr oedd ar y cloc pan beniodd Lee Fowler Wrecsam ar y blaen o groesiad Mark Carrington.

Dyblwyd y fantais saith munud yn unig yn ddiweddarach pan rwydodd Connor Jennings o’r smotyn wedi trosedd arno gan Paul Rodgers yn y cwrt cosbi.

Wrecsam a gafodd y gorau o’r gêm yn yr ail hanner hefyd ond bu rhaid iddynt fodloni ar ddwy gôl yn unig wrth iddynt sicrhau’r tri phwynt yn gyfforddus.

Mae’r canlyniad yn codi’r Dreigiau bedwar lle i’r wythfed safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol, dri phwynt i ffwrdd o’r gemau ail gyfle.

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Carrington, Hudson, Fowler, Newton, Fyfield, Moke (Evans 69’), Heslop, Jennings, Beck (York 76’), Jackson

Goliau: Fowler 31’, Jennings [c.o.s.] 38’

.

Bromley

Tîm: Julian, Rodgers, Holland, Minshull, Anderson, Francis, Gordon (Goldberg 74’), Fuseini, Allassani (Coombes 54’), Wall (May 45’), Emmanuel

Cerdyn Melyn: Wall 26’

.

Torf: 3,511