Charlton 0–0 Caerdydd                                                                    

Gêm gyfartal ddi sgôr a gafodd Caerdydd wrth iddynt deithio i’r Valley i wynebu Charlton yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Cafwyd digon o gyffro er gwaethaf y sgôr ddiflas wrth i’r Adar Gleision ymweld â’r tîm a ddechreuodd y dydd ar waelod y tabl.

Cafodd Joe Ralls ac Anthony Pilkington ill dau eu hatal gan y pren, cynnig Ralls o bellter yn taro’r postyn cyn i Pilkington anelu foli at y trawst.

Cafodd y tîm cartref sawl cyfle hefyd, gyda dau o’r rhai gorau yn cael eu gwastraffu gan Simon Makienok yn y munudau olaf.

Gorffennodd Caerdydd y gêm gyda deg dyn yn dilyn ail gerdyn melyn Sammy Ameobi, ond roedd hi ym mhell i mewn i’r amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm erbyn hynny ac yn rhy hwyr i Charlton gymryd mantais.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Cymry yn nawfed yn nhabl y Bencampwriaeth, bum pwynt o’r safleoedd ail gyfle.

.

Charlton

Tîm: Henderson, Solly, Teixeira, Lennon, Fox, Ghoochannejhad (Poyet 75’), Cousins (Sonogo 73’), Jackson (Ba 65’), Bergdich, Berg Gudmundsson, Makienok

Cardiau Melyn: Bergdich 79’, Makienok 87’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Fabio (Peltier 45’), Ecuele Manga, Connolly, Malone, Ameobi, O’Keefe (Macheda 68’), Ralls, Wittingham (Gunnarsson 78’), Pilkington, Lawrence

Cardiau Melyn: Ameobi 45’, 90’

Cerdyn Coch: Ameobi 90’

.

Torf: 16,755