Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi pa rai o’u chwaraewyr fydd yn ymddangos yn Uwch Gynghrair De Cymru yn 2016, ac i ba dimau y byddan nhw’n chwarae.

Bydd 20 o chwaraewyr y sir yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair – 10 yn yr Adran Gyntaf a 10 yn yr Ail Adran.

I dimau’r Ail Adran y bydd y chwaraewyr mwyaf profiadol yn chwarae, tra bydd y chwaraewyr ieuengaf yn chwarae yn yr Adran Gyntaf.

Bydd nifer o’r chwaraewyr yn cael aros gyda’r timau yr oedden nhw wedi’u cynrychioli’r tymor diwethaf, gan gynnwys Jack Murphy (Rhydaman), Kieran Bull (Castell-nedd), Aneurin Donald (Y Mwmbwls) a Dewi Penrhyn Jones (Port Talbot).

I Miskin Manor y bydd capten y sir, Jacques Rudolph yn mynd, tra bydd ei gydwladwr Colin Ingram yn cynrychioli Aberdâr.

Bydd Graham Wagg, a gafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn y tymor diwethaf, yn cynrychioli Clydach.

I’r Ail Adran at Sain Ffagan y bydd Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn, David Lloyd yn mynd, wrth gyfnewid gyda’r batiwr ifanc Jeremy Lawlor, sy’n symud i Bontarddulais.

Yr Awstraliad ifanc Nick Selman, sy’n glanio yng Nghymru ymhen llai na phythefnos, fydd yn cynrychioli Caerdydd, tra bydd y batiwr agoriadol ifanc James Kettleborough yn chwarae i Ben-y-bont ar Ogwr.

Kieran Bull

Bydd y troellwr ifanc o Sir Benfro, Kieran Bull yn aros yng Nghastell-nedd am bedwerydd tymor tra ei fod e’n cwblhau ei astudiaethau ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Fe fydd yn cael ei hyfforddi gan gyn-wicedwr Morgannwg, Adrian Shaw.

Dywedodd Bull: “Rwy’n falch o gael dychwelyd i Gastell-nedd am bedwerydd tymor. Mae’n glwb gwych ac mae Adrian Shaw wedi bod yn dda iawn i fi, mae e wedi chwarae rhan fawr yn fy natblygiad mor hir yn ôl â’r adeg pan oeddwn i yn nhîm datblygu Cymru pan oeddwn i’n iau.

“Fe wnaethon ni aros i fyny yn yr adran uchaf y llynedd, felly byddwn ni’n ceisio gwella unwaith eto yn 2016.”

Y rhestr yn llawn

Yr Adran Gyntaf:

  • Abertawe – Andrew Salter
  • Caerdydd – Nick Selman
  • Casnewydd – Dean Cosker
  • Castell-nedd – Kieran Bull
  • Pen-y-bont ar Ogwr – James Kettleborough
  • Pontarddulais – Jeremy Lawlor
  • Port Talbot – Dewi Penrhyn Jones
  • Rhydaman – Jack Murphy
  • Y Mwmbwls – Aneurin Donald
  • Ynysygerwn – Ruaidhri Smith

Yr Ail Adran

  • Aberdâr – Colin Ingram
  • Clydach – Graham Wagg
  • Crwydriaid Caerfyrddin – Timm Van Der Gugten
  • Miskin Manor – Jacques Rudolph
  • Panteg – Will Bragg
  • Penarth – Mark Wallace
  • Pentyrch – Michael Hogan
  • Sain Ffagan – David Lloyd
  • Tondu – Chris Cooke
  • Ynystawe – Craig Meschede