Altrincham 1–1 Wrecsam                                                                

Wnaeth pethau ddim altro yn Altrincham i Wrecsam nos Fawrth wrth i’w rhediad siomedig yn y Gynghrair Genedlaethol barhau gyda gêm gyfartal arall.

Mae’r Dreigiau bellach heb ennill mewn pedair gêm gynghrair ar ôl rhannu’r pwyntiau ar Moss Lane.

Rhoddodd Josh Ginnelly’r tîm cartref ar y blaen o groesiad Ryan Crowther wedi dim ond deg munud.

Roedd yr ymwelwyr o ogledd Cymru yn gyfartal cyn yr egwyl serch hynny diolch i beniad Simon Heslop o groesiad Kayden Jackson chwarter awr cyn yr hanner.

Wrecsam a gafodd y gorau o’r gêm yn yr ail gyfnod hefyd ond er iddynt reoli’r meddiant, gwastraffodd Robbie Evans, Blaine Hudson a Connor Jennings gyfleoedd i’w hennill hi i’r Dreigiau.

Gyda thri phwynt o’r deuddeg posibl diwethaf, mae Wrecsam yn aros yn ddeuddegfed, bedwar pwynt i ffwrdd o’r safleoedd ail gyfle.

.

Altrincham

Tîm: Deasy, Sinnott, Ginnelly, Holness, Leather, Griffin, Moult, Richman, Margetts, Rankine, Crowther (Mottley-Henry 84’)

Gôl: Ginnelly 11’

Cardiau Melyn: Crowther 21’, Richman 42’

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Carrington, Fyfield, Newton, Smith, Moke (Beck 62’), Hudson, Evans, Jackson, Jennings, Heslop

Gôl: Heslop 29’

Cerdyn Melyn: Fyfield 15’

.

Torf: 1,261