(Llun: Asiantaeth Huw Evans)
“Tîm Cymru yw Morgannwg”, yn ôl Prif Hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg, Robert Croft, a gafodd ei gyflwyno’n ffurfiol i’r wasg yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd fore dydd Mawrth.

Cafodd Croft ei benodi’r wythnos diwethaf fel olynydd i Toby Radford, a adawodd ei swydd ym mis Rhagfyr a chanddo un tymor yn weddill o’i gytundeb.

Wrth amlinellu ei weledigaeth ar gyfer y sir, pwysleisiodd Croft yr angen i greu’r genhedlaeth nesaf o gricedwyr o Gymru. Ond fe rybuddiodd y bydd yn rhaid iddyn nhw weithio’n galed i gystadlu am eu lle yn y tîm cyntaf.

Eisoes, mae gan y sir rai Cymry blaenllaw gan gynnwys Mark Wallace a Dean Cosker, ac mae nifer o Gymry ifainc yn codi drwy’r rhengoedd, gan gynnwys Andrew Salter, Kieran Bull, David Lloyd a Dewi Penrhyn Jones.

Dywedodd Croft wrth Golwg360: “Fi moyn gweld llawer o fois o Gymru’n whare i Forgannwg, ond mae rhaid iddyn nhw fod yn ddigon da i gael lle yn ein tîm ni. Os ych chi’n ddigon da, ych chi’n mynd i gael cyfle. Os ych chi ddim yn ddigon da, dych chi ddim.”

Fel un o arwyr Morgannwg ers chwarter canrif, mae gan Croft brofiad fel troellwr, capten ac is-hyfforddwr, ac mae’n llwyr ymwybodol o’r fraint o gynrychioli Morgannwg yn erbyn siroedd Lloegr.

“Fi’n gwybod beth mae rhaid i chi wneud i gystadlu ar y lefel uchaf. Fi wedi whare mewn timau arbennig a rhai oedd ddim yn arbennig o dda. Fi wedi gweld y garfan yn tyfu dros y blynydde. Gobeithio bo fi’n gallu rhoi tipyn bach o ‘ambition’ iddyn nhw nawr i gael popeth mas ohonyn nhw bob tro maen nhw’n mynd ar y cae.

“Tîm Cymru y’n ni. Y peth pwysig i fi yw canolbwyntio ar y garfan fan hyn a trio cael amser llwyddiannus ar y cae.”

Llinach o hyfforddwyr o Gymru

Fel hyfforddwr, mae Croft yn awyddus i gynnal llinach o hyfforddwyr llwyddiannus o Gymru sydd wedi arwain y sir.

“Bob tro y’ch chi’n gweithio gyda rhywun, rhaid i chi ddysgu wrthyn nhw. Fi wedi caei tipyn mas o weithio gyda Toby Radford. Hefyd o’n i wedi whare o dan bobol fel Alan Jones, John Derrick a llawer o bobol eraill. Ond y peth pwysig i fi yw gwneud pethau yn y ‘Robert Croft way’ a gawn ni weld beth sy’n digwydd.”

Ymateb y gorllewin i’r penodiad

Ar y diwrnod y cafodd Robert Croft ei gyflwyno’n ffurfiol i’r wasg, cafodd ei benodiad ei groesawu gan Gadeirydd Orielwyr San Helen, John Williams, a ddywedodd wrth Golwg360: “Mae penodi Robert Croft yn Brif Hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg yn newyddion arbennig i bawb sydd yn cefnogi  Clwb Criced Morgannwg. Does neb yn ystod y tri degawd diweddaf wedi cyflawni cymaint dros y sir.

“Bydd y penodiad hwn yn un poblogaidd iawn ac yn ddi-os yn codi proffil Morgannwg fwyfwy.

“Rydym ni Orielwyr San Helen – ‘Y Balconiers’-  yn hynod falch bod un o fois y gorllewin yn haeddu’r swydd hon.

“Mae’n bwysig nodi taw ar y cae hanesyddol hwn yng Ngorffennaf 2010 y cyflawnodd Robert y garreg filltir o fil o wicedi, dim ond y pedwerydd bowliwr erioed o Forgannwg i gyflawni hyn, a’r unig un erioed i wneud y dwbwl, sef mil o wicedi a deng mil o rediadau dros y sir.

“Rwy’n gweld bod gennym siawns yn y dyfodol i ddatblygu magwrfa i gricedwyr ifanc yn y gorllewin i Forgannwg, fel y buodd hi yn y gorffennol. Roedd y rhan fwyaf o’r ‘legends’ wedi cael eu magu yn y gorllewin, ac roedd Robert yn un ohonyn nhw.”

Gallwch ddarllen y cyfweliad llawn gyda Robert Croft yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon. 

Stori: Alun Rhys Chivers