Mae gan Devils Caerdydd fantais o ddwy gôl yn y gwpan ar ddiwedd cymal cyntaf y rownd gyn-derfynol yn erbyn Belfast Giants nos Sul.

Gorffennodd yr ornest gyda buddugoliaeth o 5-3 i’r Cymry, wrth i’r gôl-warchodwr Ben Bowns arbed 30 ergyd allan o 33.

Daeth gôl gynta’r Devils wedi wyth munud wrth i Trevor Hendrikx rwydo heibio i Stephen Murphy.

Ond buan y tarodd y Gwyddelod yn ôl gyda gôl i James Desmarais bum munud yn ddiweddarach.

Dwy funud yn unig o’r ail gyfnod gymerodd hi i’r Cymry fynd ar y blaen wrth i Ryan Russell dderbyn pas gan Andrew Lord cyn ergydio tua’r rhwyd.

Roedd hi’n gyfartal unwaith eto wedi 34 o funudau diolch i bas gan Desmarais i lwybr David Rutherford.

Aeth y Cymry ar y blaen unwaith eto wedi ugain eiliad o’r trydydd cyfnod wrth i Guillaume Doucet rwydo yn dilyn pas gelfydd gan Joey Martin.

Ymestynnodd y Devils eu mantais ddwy funud yn ddiweddarach wrth i Joey Haddad basio i Leigh Salters i’w gwneud hi’n 4-2 wedi bron i 43 o funudau.

Tarodd y Giants yn ôl drwy Kris Beech wedi 44 o funudau, ond daeth pumed gôl y Devils dair munud yn ddiweddarach wrth i Joey Haddad ddarganfod cefn y rhwyd.

Joey Haddad gafodd ei enwi’n seren yr ornest.

Bydd yr ail gymal yn cael ei gynnal ar Chwefror 23.