Mae gan Devils Caerdydd fantais o bum pwynt ar frig y gynghrair hoci iâ wedi iddyn nhw guro Coventry Blaze o 5-2 yn y brifddinas nos Sadwrn.

Sgoriodd Joey Martin ddwy gôl i helpu’r Cymry i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Tomas Kurka oedd y cyntaf i ddarganfod y rhwyd wedi pum munud, a hynny gyda chymorth Guillaume Doucet a Ryan Russell.

Dair munud a hanner yn ddiweddarach, fe ddyblodd y Cymry eu mantais wrth i Martin rwydo gyda chymorth Leigh Salters ac Andrew Hotham.

Ond tarodd yr ymwelwyr yn ôl yn fuan wedyn wrth i Cale Tanaka ddarganfod Brett Robinson cyn i hwnnw ergydio heibio i Ben Bowns.

Unionodd yr ymwelwyr y sgôr yn yr ail gyfnod wrth i Jim Jorgensen rwydo toc cyn 30 munud.

Ond y Devils gafodd y gorau o’r trydydd cyfnod, wrth iddyn nhw sgorio tair gôl i sicrhau’r pwyntiau.

Cyfunodd Andrew Lord a Jake Morisette wrth i’r Devils fynd ar y blaen wedi bron i 50 munud.

Dair munud yn ddiweddarach, aeth y Cymry ymhellach ar y blaen wrth i Carl Hudson basio i Joey Martin wrth i hwnnw rwydo am yr ail waith ar y noson.

Cwblhaodd Martin hat-tric o goliau yn y funud olaf i’w gwneud hi’n 5-2.