Wrecsam 2–2 Forest Green                                                           

Sgoriodd Forest Green gôl hwyr wrth gipio pwynt yn erbyn Wrecsam ar y Cae Ras yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.

Roedd hi’n ymddangos fod dwy gôl Blaine Hudson yn mynd i sicrhau’r tri phwynt i’r Dreigiau, ond cipiwyd dau ohonynt o’u gafael gyda gôl Brett Williams yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Rhoddodd Darren Carter Forest Green ar y blaen wedi ugain munud, yn sgorio gyda’i ben wedi i gyn chwaraewr Caerdydd, Jon Parkin, benio’r bêl i’w gyfeiriad.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond peniodd Hudson y Dreigiau’n gyfartal o groesiad Mark Carrington toc wedi’r awr.

Ychwanegodd Hudson ei ail yn fuan wedyn, yn elwa o waith creu Connor Jennings y tro hwn i roi ei dîm ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Roedd hi’n ymddangos fod hynny’n mynd i fod yn ddigon ond yn ôl y daeth Forest Green. Ac er iddynt orffen y gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Sam Wedgbury wnaeth hynny ddim eu hatal rhag cipio pwynt gydag ergyd hwyr Williams o ochr y cwrt cosbi.

Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn ddeuddegfed yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol, bum pwynt y tu ôl i Eastleigh sydd yn bumed.  

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Heslop, Smith, Fyfield, Carrington, Jackson, Newton, Jennings, Vidal (Moke 46’), York (Beck 60’), Hudson

Goliau: Hudson 62’, 68’

Cerdyn Melyn: Heslop 74’

.

Forest Green

Tîm: Arnold, Bennett, Clough, Sinclair, Jennings, Racine, Marsh-Brown (Guthrie 71’), Wedgbury, Frear, Parkin (Moore 70’), Carter (Williams 82’)

Goliau: Carter 21’, Williams 90’

Cardiau Melyn: Bennett 36’, Racine 50’, Marsh-Brown 54’, Wedgbury 73’, 90’

Cerdyn Coch: Wedgbury 90’

.

Torf: 3,891