Ulster 17–15 Dreigiau Casnewydd Gwent

Ciciodd Paddy Jackson dri phwynt hwyr i ennill y gêm i Ulster wrth i’r Dreigiau ymweld â Stadiwm Kingspan yn y Guinness Pro12 nos Wener.

Roedd y Cymry ar y blaen tan dri munud o’r diwedd yn dilyn cais ym mhob hanner gan Adam Hughes a Carl Meyer, ond cipwyd y fuddugoliaeth o’u gafael gyda chic hwyr Jackson.

Dechreuodd y Dreigiau’n dda ac roeddynt ar y blaen wedi dim ond pedwar munud diolch i gic gosb Angus O’Brien.

Yr ymwelwyr a gafodd gais cyntaf y noson hefyd wrth i Hughes groesi wedi chwarter awr, y canolwr yn cwblhau symudiad gwych wrth ddilyn a thirio cic Meyer yn y gornel chwith, 0-10 y sgôr wedi trosiad O’Brien.

Os oedd cais y Dreigiau yn un da, felly hefyd sgôr gyntaf Ulster ddeg munud yn ddiweddarach. Y blaenasgellwr, Sean Reidy, oedd y sgoriwr yn dilyn dwylo ac ailgylchu da gan fwyafrif y tîm.

Llwyddodd Ian Humphreys gyda’r trosiad gan gau’r bwlch i dri phwynt ar yr egwyl.

Dechreuodd y Dreigiau’n dda eto yn yr ail hanner gyda Meyer yn croesi am ail gais yr ymwelwyr yn dilyn dwylo da Rynard Landman.

Methodd O’Brien y trosiad serch hynny ac fe newidiodd y llif yn fuan wedyn. Dechreuodd Ulster bwyso ac anfonwyd Matthew Screech i’r gell gosb wrth i’r Cymry ildio cais cosb.

Rhoddodd trosiad Jackson y Gwyddelod o fewn pwynt ac aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Dreigiau wrth i Ben White ymuno â Screech yn y gell gallio.

Amddiffynnodd y tri dyn ar ddeg yn dda serch hynny ac roedd hi’n ymddangos eu bod yn mynd i gael eu gwobrwyo trwy ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth.

Ond, cipiwyd y fuddugoliaeth honno o’u gafael dri munud yn unig o ddiwedd yr wyth deg pan drosodd Jackson gic gosb i ennill y gêm i’w dîm.

Bu rhaid i’r Dreigiau fodloni ar bwynt bonws yn unig felly wrth iddynt aros yn ddegfed yn nhabl y Pro12.

.

Ulster

Ceisiau: Sean Reidy 24’, Cais Cosb 52’

Trosiadau: Ian Humphreys 26’, Paddy Jackson 52’

Cic Gosb: Paddy Jackson 77’

.

Dreigiau

Ceisiau: Adam Hughes 16’, Carl Meyer 46’

Trosiad: Angus O’Brien 16’

Cic Gosb: Angus O’Brien 4’

Cardiau Melyn: Matthew Screech 52’, Ben White 56’