Ryan JOnes
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi Ryan Jones, cyn-gapten Cymru a’r Llewod, i swydd a fydd yn ceisio annog mwy o bobl ledled Cymru i gymryd rhan yn amlach gyda rygbi ar bob lefel.

Bydd Ryan Jones, enillodd 75 o gapiau i’w wlad, yn ymuno â Bwrdd Gweithredol Undeb Rygbi Cymru.

Fel rhan o’i swydd bydd yn cynrychioli mwy na 300 o glybiau ar draws Cymru ac yn rhoi llais iddyn nhw o fewn yr undeb.

Bydd Ryan Jones yn ymuno â Geraint John, sydd newydd gael ei benodi’n Pennaeth Perfformiad Rygbi, ar Fwrdd Gweithredol Undeb Rygbi Cymru. Drwy rannu un swydd yn ddwy  mae’r Undeb yn gobeithio rhoi  mwy o ffocws ar gymryd rhan ac, i chwaraewyr hyn, ar wella agweddau o berfformiad.

Dywedodd Martyn Phillips, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru: “Er bod cymwysterau Ryan fel chwaraewr a chapten Cymru yn amlwg, o fwy o bwys i mi yw ei enw da fel esiampl i chwaraewyr, ei awydd i roi rhywbeth yn ôl i mewn i gêm sydd wedi bod mor dda iddo a rhoi ei egni amlwg ar waith yn y gêm gymunedol yng Nghymru.”

Mae Ryan Jones yn un o griw bach o chwaraewyr sydd wedi ennill tair Camp Lawn gyda Chymru – yn 2005, 2008 a 2012. Roedd hefyd yn gapten y Gweilch rhwng 2007 a 2010.

Meddai Ryan Jones: “Rydym yn genedl rygbi angerddol ac rwy’n gynnyrch o hynny. Fy nod yw gwneud y gêm y mae cynifer ohonom yn ei garu o fewn cyrraedd mwy o bobl, yn fwy aml gyda mwy o hwyl.”