Jayne Ludlow
Mae tîm pêl-droed merched Cymru yn wynebu her anodd iawn os ydyn nhw am gyrraedd Ewro 2017 bellach, ar ôl gêm gyfartal o 2-2 yn erbyn Israel brynhawn dydd Mawrth.

Fe aeth Israel ar y blaen yn y gêm ragbrofol yn Ramat Gan ar ôl i Lee Sima Falkon rwydo wedi 25 munud, cyn i ddwy gôl gan Natasha Harding yn yr ail hanner roi Cymru ar y blaen.

Ond fe sgoriodd Rachel Shelina i’r Israeliaid gydag ychydig funudau’n weddill i amddifadu’r crysau cochion o dri phwynt pwysig.

Trydydd yn y grŵp

Mae tîm Jayne Ludlow bellach yn drydydd yn y grŵp rhagbrofol ar ôl chwarae pedair gêm, ac wedi wynebu pob un o’u gwrthwynebwyr unwaith.

Fe enillodd Cymru o 4-0 yn erbyn Kazakhstan yr wythnos diwethaf, gyda Helen Ward yn sgorio hat tric, a hynny ar ôl iddyn nhw golli eu dwy gêm agoriadol i ffwrdd yn erbyn Awstria a Norwy.

Dim ond y tîm sydd gorffen ar frig y grŵp sydd yn saff o le yn Ewro 2017, tra bod y tîm sydd ail un ai’n cyrraedd y twrnament neu’n gorfod wynebu gêm ail gyfle.

Fe fydd gêm nesaf Cymru i ffwrdd yn Kazakhstan ar 12 Ebrill 2016.