Bydd Morgannwg yn croesawu Swydd Gaerlŷr i’r Swalec SSE ar gyfer gornest yn ail adran y Bencampwriaeth ar ddiwrnod cynta’r tymor criced newydd yn 2016.

Bydd yr ornest honno’n dechrau ar Ebrill 17.

Bydd y Cymry’n dechrau eu hymgyrch T20 Blast ddiwedd mis Mai wrth iddyn nhw deithio i’r Oval i herio Swydd Surrey.

Byddan nhw’n croesawu Swydd Gaerloyw i Gaerdydd ar ddiwrnod agoriadol cwpan 50 pelawd Royal London ar Fehefin 6.

Wrth baratoi ar gyfer y tymor newydd, fe fydd Morgannwg yn herio Prifysgol Caerdydd mewn gornest tri diwrnod fydd yn dechrau ar Ebrill 11.

Bydd rhestr o’r holl gemau a’r lleoliadau’n cael ei chyhoeddi’n llawn fore dydd Mercher.