Fe fydd y Scarlets yn gorfod gwneud heb James Davies tan o leiaf mis Chwefror ar ôl i’r blaenasgellwr anafu ei droed.

Fe gadarnhaodd prif hyfforddwr y rhanbarth Wayne Pivac bod disgwyl i’r chwaraewr 25 oed fod allan am 12 wythnos, gan olygu na fydd ar gael drwy gydol cyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

Mae’n ergyd fawr i’r Scarlets, sydd yn ail yn nhabl y Pro 12 ar ôl dechrau’r tymor yn gryf gyda saith buddugoliaeth allan o wyth.

Roedd James Davies wedi chwarae ym mhob un o’r gemau hynny, gan sgorio pedair cais, yn ogystal â chwarae dwy gêm y Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop hyd yma.

Llynedd oedd ei dymor llawn cyntaf gyda’r Scarlets ac fe wnaeth y blaenasgellwr, sydd yn frawd i ganolwr Cymru Jonathan Davies, argraff fawr ar yr hyfforddwyr a’r cefnogwyr.