Lerpwl 1–0 Abertawe                                                                       

Roedd cic o’r smotyn James Milner toc wedi’r awr yn ddigon i Lerpwl wrth iddynt drechu Abertawe yn Anfield brynhawn Sul.

Wedi hanner cyntaf diflas di sgôr fe ddaeth unig gôl y gêm yn yr ail hanner wedi i’r bêl daro llaw Neil Taylor yn y cwrt cosbi.

Milner gymrodd y gic gan ei tharo yn uchel i do’r rhwyd.

Felly yr arhosodd hi tan y diwedd wrth i’r Elyrch fethu taro’r targed trwy gydol y gêm.

Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe yn bymthegfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Lerpwl

Tîm: Mignolet, Clyne, Skrtel, Lovren, Moreno, Milner, Can, Lallana, Ibe (Touré 95′), Benteke (Sturridge 71′), Firmino (Henderson 64′)

Gôl: Milner [c.o.s.] 62’

Cardiau Melyn: Milner 25’, Skertel 65’, Mignolet 90’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Bartley, Williams, Taylor, Britton (Cork 65′), Ki Sung-yueng, Routledge (Montero 72′), Sigurdsson, Ayew, Éder (Gomis 69′)

Cerdyn Melyn: Bartley 70’

.

Torf: 43,905