Gweilch 13–6 Gleision

Alun Wyn Jones sgoriodd unig gais y gêm wrth i’r Gweilch drechu’r Gleision yn y gêm Guinness Pro12 ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Cic gosb Jarrod Evans wedi chwe munud oedd unig bwyntiau hanner cyntaf gwlyb yn Abertawe.

Dechreuodd yr ail hanner, fel y cyntaf gyda chic gosb o droed maswr ifanc yn Gleision, Evans yn dyblu mantais yr ymwelwyr.

Bu rhaid aros tan toc cyn yr awr am gais cyntaf y gêm, Alun Wyn Jones y sgoriwr ac roedd y Gweilch ar y blaen am y tro cyntaf wedi trosiad Sam Davies.

Ychwanegodd Davies gic gosb i roi pedwar pwynt rhwng y ddau dîm gyda deuddeg munud i fynd, a sicrhaodd tri phwynt hwyr o droed y maswr y fuddugoliaeth i’r tîm cartref.

Nid yw’r canlyniad yn newid llawer yn nhabl y Pro12, mae’r Gweilch yn aros yn wythfed a’r Gleision yn unfed ar ddeg.

.

Gweilch

Cais: Alun Wyn Jones 57’

Trosiad: Sam Davie 58’

Ciciau Cosb: Sam Davies 69’, 77’

.

Gleision

Ciciau Cosb: Jarrod Evans 6’, 50’