Mae Clwb Criced Morgannwg wedi arwyddo’r Awstraliad 20 oed, Nick Selman am dymor 2016.

Gwnaeth Selman, sy’n hanu o Brisbane, argraff ar hyfforddwyr y sir wrth chwarae i’r ail dîm ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Dydy Selman ddim yn cael ei ystyried yn chwaraewr tramor gan fod ganddo basbort deuol.

Cynrychiolodd ail dimau siroedd Caint a Chaerloyw hefyd yn 2015.

Dywedodd Selman: “Rwy wedi cyffroi o gael ymuno â Morgannwg, cael dod i Gymru a helpu Morgannwg i adeiladu ar eu perfformiadau yn 2015.

“Rwy’n edrych ymlaen at yr her o helpu’r clwb i wthio am ddyrchafiad i’r Adran Gyntaf.”

Ychwanegodd prif weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Gwnaethon ni gydnabod fod angen mwy o ddyfnder ymhlith ein batwyr ac mae Nick yn chwaraewr ifanc dawnus fydd yn cael cyfle i sgorio rhediadau i’r sir fel y mae e wedi gwneud wrth chwarae criced yn Awstralia ac i ail dimau yma.

“Mae Nick wedi chwarae i dimau oedran yn Queensland ac mae e wedi treulio peth amser gyda’r siroedd eisoes, felly mae e’n gwybod beth i’w ddisgwyl.

“Edrychwn ymlaen at ei groesawu i’r clwb ac rwy’n sicr bod ganddo fe ddyfodol disglair gyda Morgannwg.”

Cytundebau newydd

Yn y cyfamser, mae Michael Hogan a Kieran Bull wedi derbyn cytundebau newydd i’w cadw gyda’r sir tan ddiwedd tymor 2018.

Roedd gan Hogan, 34, gytundeb tan ddiwedd tymor 2016 ac mae hwnnw wedi’i ymestyn am ddau dymor ychwanegol.

Mae’r troellwr Bull, 20, wedi derbyn ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda’r sir.