Mae Clwb Pêl-droed Bae Colwyn wedi amddiffyn eu penderfyniad i arwyddo chwaraewr gafodd ei anfon i’r carchar am roi negeseuon hiliol am Fwslemiaid ar Twitter.

Cafodd Sean Tuck ei garcharu yn 2013 ar ôl galw ar fosgiau ym Mhrydain i gael eu “gwenwyno neu ffrwydro” yn dilyn yr ymosodiad ar y milwr Lee Rigby.

Blwyddyn yn ddiweddarach cafodd ddedfryd arall wedi’i ohirio ar ôl rhoi neges ar wefan gymdeithasol yn galw dyn yn “orang-wtan” a bygwth taflu asid i wyneb unrhyw blant oedd ganddo.

Ond fe fynnodd rheolwr Bae Colwyn Kevin Lynch y dylai pobl “ganolbwyntio ar beth mae’n ei gynnig fel pêl-droediwr” yn hytrach na’i orffennol troseddol.

Negeseuon hiliol

Cafodd Tuck ei garcharu am 12 wythnos yn 2013 ar ôl cyfaddef anfon negeseuon ar Twitter yn galw am ymosodiadau a therfysgoedd ar fosgiau, gan gyfeirio hefyd at dorri pennau plant Mwslemaidd.

Dywedodd wrth swyddogion heddlu ar y pryd ei fod wedi bod yn yfed a bod ei emosiynau wedi mynd yn drech arno yn sgil marwolaeth Lee Rigby, gafodd ei lofruddio gan ddau eithafwr ger barics Woolwich yn Llundain.

Ond yn 2014 fe gafodd Tuck ddedfryd arall, y tro hwn wedi’i ohirio, am wneud sylwadau pellach ar ei dudalen Facebook yn cyhuddo dyn o ymosod arno.

Cyfeiriodd Shaun Tuck at y person fel “orang-wtan” gan ddweud ei fod yn “gobeithio bod cwch banana ei deulu yn boddi” ac “os ydw i’n ei weld neu’n darganfod pwy ydi o ac os oes ganddo blant fe gawn nhw asid yn eu hwynebau”.

‘Canolbwyntio ar ei chwarae’

Wrth gyhoeddi eu bod wedi arwyddo’r ymosodwr ar eu gwefan fe gyfaddefodd CPD Bae Colwyn, sydd yn chwarae yn seithfed haen cynghreiriau Lloegr, fod gan Tuck “orffennol dadleuol”.

Mynnodd rheolwr y clwb fodd bynnag nad oedd hanes y chwaraewr 28 oed, oedd gynt â chlybiau fel Accrington Stanley, Marine, Vauxhall Motors a Bootle, yn ei boeni.

“Byddai’n well gen i ganolbwyntio ar beth mae’n ei gynnig fel pêl-droediwr achos mae’n chwaraewr cadarn a brwdfrydig sydd yn gweithio’n galed ac yn sgorio goliau ble bynnag mae e wedi bod,” meddai Kevin Lynch.

“Mae ganddo awch ac ymroddiad dros yr achos ac mae’n achosi pob math o broblemau i amddiffynwyr â’i allu a’i waith caled – dyna beth ddylai o gael ei farnu arno.”