Wel, dyma ni. Ar ôl hir aros, ac Israel yn gwneud eu rhan wrth oedi’r parti, mae’n edrych fel bod diwrnod mawr Cymru wedi cyrraedd o’r diwedd.

Wrth i ni eistedd i lawr am sgwrs gydag Owain Schiavone, Iolo Cheung ac Aled Morgan Hughes ar bod pêl-droed Golwg360 mae Cymru’n paratoi i deithio i Bosnia dydd Sadwrn er mwyn ceisio sicrhau’r pwynt fydd yn mynd â nhw i Ewro 2016.

Mae’n golygu bod gan y triawd ddigon i’w drafod wrth edrych ymlaen at y gêm honno a’r ornest tridiau yn ddiweddarach yn erbyn Andorra.

Yn ogystal â gwerthuso’r garfan gref mae sylw’r tri yn troi at chwaraewyr fel Tom Bradshaw sydd heb eu cynnwys, ac eraill fel Tyler Roberts a Harry Wilson allai wthio am le yn y dyfodol.

Mae barn y chwaraewyr cyn y gêm hefyd yn cael eu trafod – beth oedd trobwynt yr ymgyrch i Owain Fôn Williams? A fydd ambell un â’u llygad ar y rygbi hefyd dydd Sadwrn? Pwy yw’r 725 o bobl mae Chris Gunter eisiau eu plesio?

Ac yng nghanol y cyffro nos Fawrth os ydi Cymru wedi sicrhau eu lle yn yr Ewros, a fydd y chwaraewyr yn cael y cyfle i gofio am gyfraniad Gary Speed tuag at lwyddiant pêl-droed Cymru?