Chris Gunter
Mae Chris Gunter wedi dweud y byddai cipio’r canlyniad sydd ei angen ar Gymru yn Bosnia yn ffordd berffaith o ddiolch i’w cefnogwyr ffyddlon.

Bydd Cymru yn gorffen eu hymgyrch ragbrofol Ewro 2016 yn erbyn Andorra nos Fawrth nesaf, ond tridiau ynghynt fe fyddan nhw’n herio Bosnia oddi cartref.

Dim ond pwynt sydd ei angen ar dîm Cymru er mwyn sicrhau’r lle hwnnw ym Mhencampwriaethau Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Ac mae Gunter yn gobeithio cyflawni’r dasg o flaen yr 725 o gefnogwyr ffyddlon fydd yno yn Zenica i’w hannog ymlaen nos Sadwrn.

“Fe fydd e’n wych gallu dathlu gyda nhw [y cefnogwyr yn Bosnia] ar y chwib olaf,” cyfaddefodd yr amddiffynnwr sydd wedi ennill 61 cap dros ei wlad.

“Ond rydyn ni’n gwybod os na wnaiff hynny ddigwydd y cawn ni gyfle i wneud hynny o flaen y 33,000 yng Nghaerdydd [yn erbyn Andorra], a gobeithio y bydd hi’n noson dda beth bynnag fydd y sefyllfa ar y pryd.”

Gwobrwyo’r cefnogwyr

Mae’r cefnogwyr sydd wedi dilyn y tîm drwy’r ymgyrch hon yn sicr wedi cael digon i’w ddathlu, gyda Chymru dal heb golli gêm eto.

Ac mae Gunter yn mynnu bod eu cyfraniad nhw yn holl bwysig i lwyddiant diweddar y tîm.

“Mae wedi bod yn ymgyrch sydd bron i gyd yn uchafbwyntiau, ond gobeithio bod un uchafbwynt mwy i ddod,” meddai.

“Os a phryd mae’n digwydd, fe wnawn ni ddathlu dw i’n siŵr, ond cyn hynny mae’n rhaid canolbwyntio, allwch chi ddim gadael i’r meddwl grwydro.

“Mae gan y cefnogwyr ran anferth i’w chwarae. Pan aethon ni drwy’r cyfnod yna o ddim gwerthu llawer o docynnau cartref roedd e’n anodd, mae dod i ffwrdd gyda’ch tîm rhyngwladol a chwarae mewn stadiwm tri chwarter gwag yn anodd achos gyda’ch clybiau chi wedi arfer â stadia llawn.

“Ond [nawr] ni wedi mynd i Wlad Belg a Cyprus a gweld eisteddle’r cefnogwyr oddi cartref yn llawn, allwch chi ddim tanbrisio hynny. Maen nhw wedi bod yn wych ac mae mor neis ein bod ni wedi gallu ad-dalu hynny gyda chanlyniadau.”

Gwireddu potensial y ‘genhedlaeth aur’

Yn ôl Dave Edwards, chwaraewr canol cae Wolves sydd wedi gwella o anaf i’w ben-glin er mwyn gallu bod yn y garfan, mae’n rhaid cydnabod bod seiliau llwyddiant Cymru wedi cael ei osod blynyddoedd yn ôl.

“Chi’n edrych ar ble roedden ni pan nes i ddechrau, ac ychydig flynyddoedd wedyn pan roedd pethau’n dywyll iawn i bêl-droed Cymru, torfeydd isel, cwympo yn rhestrau FIFA, canlyniadau gwael, i weld pa mor bell rydyn ni wedi dod rhwng hynny a nawr,” meddai Edwards.

“Fe chwaraeodd John Toshack lawer o’r chwaraewyr sydd yn y garfan heddiw, os chi’n edrych ar chwaraewyr fel Chris Gunter, Gareth Bale ac Aaron Ramsey, fe gawson nhw dipyn o gapiau pan oedden nhw dal yn ifanc.

“Mae hynny wedi’n helpu ni nawr, mae Gunter yn 26 oed ac mae ganddo 61 cap, mae hynny’n wych iddo fe, ac fe fydd bechgyn fel fe’n ei ddilyn.

“Maen nhw wedi cael label y ‘genhedlaeth aur’, ond mae’r ffaith eu bod nhw’n cyrraedd 24, 25, 26 oed gyda chymaint â hynny o gapiau yn wych.”

Stori: Iolo Cheung